At The Table gyda Carolina Caycedo

At The Table gyda Carolina Caycedo

Yng nghwmni Liv Brissach, Fern Smith a Barbara Santos

14 Rhagfyr 2023
19:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.

 

 

Bydd Carolina Caycedo yn sgwrsio â Liv Brissach, Curadur Amgueddfa Gelf y Northern Norwegian Art Museum, yr artist gweledol Bárbara Santos a’r hwylusydd a’r tywysydd gwylltir  Fern Smith.

 

 

Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

 

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

 

 

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Credit: Carolina Caycedo - Credit Ruben Díaz

Credit:

Credit:

Credit:

Mae Carolina Caycedo (g 1978, Llundain) yn artist amlddisgyblaethol o Golombia sy’n byw yn Los Angeles. Mae ei gwaith amlgyfrwng daearyddol anferth yn wrthrychau celf a hefyd yn byrth i drafodaethau ehangach ynglŷn â sut rydym yn trin ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Drwy ei hymarfer stiwdio a gwaith maes gyda chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan seilwaith mawr a phrosiectau echdynnu eraill, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaladwy twf dan gyfalafiaeth a sut y gallem groesawu gwrthsafiad a chefnogaeth. Mae proses a chyfranogi yn ganolog i ymarfer Caycedo, ac mae’n cyfrannu tuag at ail-greu cof amgylcheddol a hanesyddol fel gofod sylfaenol ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Gan ddefnyddio gwybodaeth o epistemolegau Brodorol a ffeministaidd, mae’n wynebu rôl yr olwg drefedigaethol a fu’n preifateiddio a dad-feddiannu tir a dŵr. 

 

 

Liv Brissach yw Curadur Amgueddfa Gelf y Northern Norwegian Art Museum / Davvi Norgga Dáiddamusea. Gweithiodd fel Curadur Celf Gyfoes MUNCH yn Oslo, Norwy, ac fel Swyddog Prosiect gyda Swyddfa Celf Gyfoes Norwy (OCA). Brissach oedd cyd-guradur y MUNCH Triennale – The Machine is Us (2022) a churadur cynorthwyol y Sámi Pavilion yn Biennale Fenis yn 2022. Hyfforddodd fel hanesydd celf yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Oslo, a gellir dod i’w testunau mewn cyhoeddiadau gan MUNCH, OCA a Fotogalleriet.

 

 

Mae Fern Smith yn artist, yn hwylusydd, yn weinydd seremonïau, yn weithiwr corff sy’n deall trawma ac yn therapydd creuansacrol, yn hyfforddwr ac yn dywysydd defodau newid byd.  Cydsefydlodd y Volcano Theatre Company yn Abertawe ddiwedd yr 80au, gan greu a theithio theatr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am dros 25 mlynedd. Hi oedd Cymrawd Cyngor Celfyddydau Cymru ar Raglen Arweinyddiaeth Clore yn 2009/10 ac enillodd wobr bwysig gan Cymru Greadigol yn 2018. Mae ei gwaith bellach yn canolbwyntio ar ‘gelfyddyd byw’n dda o fewn terfynau ecolegol planed derfynedig’. Mae hyn yn cynnwys creu mannau ar gyfer deialog a chreadigrwydd – cynnal digwyddiadau, rhedeg gweithdai ac ymgymryd ag ymchwil ar y celfyddydau, arweinyddiaeth drawsnewidiol, newid cymdeithasol gan gynnwys natur a chysylltiad yr enaid. Pan nad yw hi’n ceisio tyfu bwyd yn ei gardd, mae hi’n gweithio ar brosiectau llawrydd, yn curadu The Barn, micro ganolfan encil ar gyfer artistiaid yng nghanolbarth Cymru. Hi yw Cyfarwyddwr Creadigol Emergence.

 

 

Mae Barbara Santos yn artist gweledol ac yn ymchwilydd annibynnol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar wneud prosesau trawsnewid yn weladwy gan ddefnyddio’r cysylltiad rhwng celf a thechnoleg dan arweiniad gwybodaeth ei hynafiaid yn yr Amason. Mae ganddi brofiad sylweddol yn y jyngl ers 2005 yn rhanbarthau Vaupés a Putumayo (Amason Colombaidd) ac mae’n awdur y llyfr ‘La curación como tecnología’  (Gwella fel Technoleg, idartes, 2019). Mae ei phrosiectau cyfunol hirdymor wedi’u plethu â’r bwriad o gwestiynu strwythurau traddodiadol a fformatau celf gyfoes drwy gryfhau rhwygiadau esthetig sy’n gallu deillio o gysylltiad diwylliannau cymhleth â’i gilydd. Gwefan: quiasma.co

 

 

YouTube player