At The Table gyda Naomi Rincón Gallardo

At The Table gyda Naomi Rincón Gallardo

Yng nghwmni Nina Hoechtl, Laura Gutierrez
a Beatriz Lobo Britto

29 Tachwedd 2023
19:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.

 

 

Bydd Naomi Rincon Gallardo yn sgwrsio â Laura Gutiérrez, Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned ac Ymarfer Cyhoeddus yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, Prifysgol Texas, yr artist Nina Hoechtl a Beatriz Lobo Britto, Curadur yn iniva.

 

 

Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

 

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

 

 

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Credit: Naomi Rincón Gallardo - Credit Courtesy the artist

Credit:

Credit:

Credit:

Mae Naomi Rincón Gallardo (g 1979) yn artist gweledol sy’n byw ac yn gweithio rhwng Dinas Mecsico ac Oaxaca. O safbwynt dad-drefedigaethol-cuir, mae ei bydoedd beirniadol-fytholegol seiliedig ar ymchwil yn ymdrin â chreu gwrth-fydoedd mewn lleoliadau neodrefedigaethol. Yn ei gwaith mae’n cyfuno ei diddordebau mewn gemau theatr, cerddoriaeth boblogaidd, cosmoleg Mesoamericanaidd, ffuglen ddamcaniaethol, dathliadau a chrefftau gwerinol, ffeministiaeth ddad-drefedigaethol a beirniadaeth cwiar lliw. Cwblhaodd y rhaglen ddoethuriaeth PhD mewn Ymarfer yn Academi Celf Gain Fienna.

 

 

Laura Gutiérrez yw Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd ac Ymarfer Cyhoeddus yn y Coleg Celf Gain ac Athro Cyswllt Astudiaethau Latinx yn Adran Astudiaethau Americanaidd Mecsicanaidd a Latina/o ym Mhrifysgol Texas yn Austin. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys perfformiad Latinx a Mecsicanaidd, diwylliant gweledol, astudiaethau cwiar a ffeministiaeth. Gutiérrez yw awdur Performing Mexicanidad: Vendidas y Cabareteras on the Transnational Stage (derbyniodd wobr MLA am y llyfr) a chyhoeddodd ar berfformiad Latinx, celf ar y ffin, celf fideo Mecsicanaidd a chabaret gwleidyddol Mecsicanaidd. Roedd yn Gymrawd Ysgolheigion Sefydliad Ymchwil Getty yn Los Angeles yn ystod hydref 2022. Mae hi wrthi’n cwblhau llyfr o’r enw Binding Intimacies in Contemporary Queer Latinx Performance and Visual Art. Mae Gutiérrez ar y tîm rhaglennu ac mae’n gyd-Gyfarwyddwraig Artistig yr OUTsider Festival yn Austin, Texas.

 

 

Mae Nina Hoechtl yn artist gweledol, ymchwilydd, curadur ac athrawes. Mae Hoechtl yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil ac Astudiaethau Rhywedd (CIEG) UNAM, ac mae’n llunio ac yn ymarfer ymchwil fel ymdrech trawsddisgyblaethol sy’n cyfuno arferion artistig, archifol a dadansoddol ag astudio’r celfyddydau gweledol, yn enwedig diwylliant gweledol, a damcaniaethau ac arferion cwiar, ffeministaidd ar ôl gwladychu ac wrth ddatwladychu. Yn 2013, derbyniodd Hoechtl radd ddoethuriaeth gan Brifysgol Goldsmiths Llundain. Yna, bu’n Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Estheteg (IIE), UNAM. Yn 2018 enillodd ei ffilm ¡HAUNTINGS IN THE ARCHIVE! (2017) WOBR WOMEN’S VOICE NOW am y FFILM NODWEDD DDOGFENNOL ORAU. Yn ei phrosiect diweddaraf, “Delirio güero” (2016-2021) aeth Hoechtl ati i archwilio’r hyn y mae’n ei alw’n ‘delirio güero’ (camargraff pobl wyn) yn Mecsico. Arweiniodd y prosiect hwn, ymysg cynnyrch eraill, at y fideo Delirio güero. 2211, 2018, 1825 and back, a thraethawd o’r enw “A Visual Glossary: Delirio güero (White Delusion)”, a gyhoeddwyd yn 2020 yn Sharpening the Haze (Gwasg Ubiquity).

 

 

Beatriz Lobo Britto (g. 1994, Brasil) yw Curadur Sefydliad y Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol (iniva). Mae Beatriz hefyd yn ofalwr amgueddfeydd,  yn ymchwilydd, ac yn frwd dros feddwl heb fod yn hierarchaidd, gan gredu mewn cydraddoldeb syniadau a ffyrdd o’u creu a’u trefnu nad yw’n mynd o un cam i’r llall yn rhesymegol. Mae gan Beatriz radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Amgueddfeydd o Brifysgol Ffederal Talaith Rio de Janeiro, a gradd feistr mewn Ymarfer Curadurol gyda ffocws ar Gelf Gyfoes o Ysgol Gelf Gyfoes Glasgow. Mae hefyd wedi gweithio ym Mhrosiect NewBridge (Newcastle, y DU), Oriel Celfyddyd Fodern (Glasgow, y DU), Museu do Índio (Amgueddfa Pobl Frodorol, Rio de Janeiro, Brasil).

 

 

YouTube player