At The Table gyda Nguyễn Trinh Thi

At The Table gyda Nguyễn Trinh Thi

Yng nghwmni Zoe Butt, Dr Philippa Lovatt a May Adadol Ingawanij

3 Tachwedd 2023
13:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.

 

Mae’r drafodaeth banel gyntaf ar gyfer y rhifyn hwn yn cyflwyno’r artist Nguyễn Trinh Thi sy’n sgwrsio â Zoe Butt, curadur, awdur a Sylfaenydd/Cyfarwyddwraig y sefydliad in-tangible; Dr. Philippa Lovatt, darlithydd Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol St Andrews; a’r awdur, curadur ac athrawes May Adadol Ingawanij.

 

Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

 

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Credit:

Credit: Zoe Butt

Credit:

Credit:

Mae Zoe Butt yn guradur ac yn Sylfaenydd/Cyfarwyddwr y sefydliad in-tangible. Bu’n Gyfarwyddwraig Artistig Canolfan Celf Gyfoes y Factory yn Ho Chi Minh City (2009–21). Mae’n Gymrawd Curadurol Rhyngwladol MoMA; yn aelod o fenter “Asia 21” Cymdeithas Asia; ac yn aelod o Gyngor Celf Asiaidd, Amgueddfa Solomon R Guggenheim. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwraig Weithredol a Churadur, Sàn Art, gofod celf gyfoes annibynnol yn Ho Chi Minh City (2009–16); Cyfarwyddwraig, Rhaglenni Rhyngwladol, Long March Project, Beijing (2007–09) a Churadur Cynorthwyol, Celf Gyfoes Asiaidd, Oriel Gelf Queensland, Brisbane, Awstralia (2001–07).

 

Mae Dr Philippa Lovatt yn Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol St Andrews. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddelweddau symudol artistiaid, sain, eco-feirniadaeth a diwylliannau ffilm a fideo annibynnol yn Ne-ddwyrain Asia. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei monograff cyntaf Reverberant Histories: Expanded Listening in Art Cinema and Artists’ Moving Image in Asia (o dan gontract gyda Gwasg Prifysgol Caeredin) a phrosiect llyfrau ar y cyd gyda Jasmine Nadua Trice o’r enw Parallel Practices: Spatial Transformation and Southeast Asian Film Cultures.

 

Mae May Adadol Ingawanij yn awdur, curadur, ac athrawes. Mae hi’n gweithio ar gelf gyfoes De-ddwyrain Asia; hanes ac achau celfyddydau sinematig sydd wedi’u dad-orllewino a’u datganoli; gwaddol avant-garde yn Ne-ddwyrain Asia; ffurfiau o greu’r dyfodol mewn arferion artistig a churadurol cyfoes De’r Byd; estheteg a chylchrediad delweddau symudol artistiaid, celf a ffilmiau annibynnol sy’n perthyn i Dde-ddwyrain Asia neu’n gysylltiedig ag ef. Mae’n Athro Celfyddydau Sinematig ym Mhrifysgol Westminster lle mae’n cyd-gyfarwyddo’r Ganolfan Ymchwil ac Addysg yn y Celfyddydau a’r Cyfryngau.