At The Table gyda Rushdi Anwar

At The Table gyda Rushdi Anwar

Yng nghwmni Dr. Omar Kholeif, Dr. Hawzhin Azeez
a Shahram Khosravi

7 Rhagfyr 2023
13:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.

 

 

Bydd yr artist Rushdi Anwar yn sgwrsio â’r Dr Omar Kholeif, Cyfarwyddydd Casgliadau ac Uwch Guradur y Sharjah Art Foundation, Hawzhin Azeez, Cyd-Gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Gwrdaidd ac Athro Anthropoleg Cymdeithasol ym Mhrifysgol Stockholm, Shahram Khosravi.

 

 

Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

 

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

 

 

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Credit: Rushdi Anwar

Credit:

Credit:

Credit: Shahram Khosravi

Yn ei waith, mae Rushdi Anwar (g 1971, Halabja, Cwrdistan [Cwrdistan-Irac]) yn myfyrio ar y materion gwleidyddol-gymdeithasol sy’n dal i aflonyddu ar geowleidyddiaeth Gorllewin Asia (a arferai gael ei adnabod fel “Y Dwyrain Canol”). Gan ddefnyddio ei brofiadau personol o ddadleoli, gwrthdaro a thrawma a ddioddefodd dan gyfundrefnau trefedigaethol ac ideolegol Irac, mae celf Anwar yn cyfeirnodi ac yn ysgogi trafodaeth ynglŷn â statws tegwch cymdeithasol – gan archwilio ei gymhlethdod gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol drwy astudiaeth o ffurf a’i materoliaeth. Gan ddefnyddio gosodiadau, cerfluniau, paentiadau, ffotograffiaeth a fideo, mae ei ymarfer yn dwyn i gof argyfwng beunyddiol y miloedd o bobl wedi’u dadleoli sydd ar hyn o bryd yn dioddef gwahaniaethu ac erledigaeth, tra’n cwestiynu’r posibilrwydd o waredigaeth ac yn dadlau bod angen i bawb ddangos empathi fel rheidrwydd cymdeithasol 

 

 

Mae Dr Omar Kholeif  yn artist, awdur, curadur ac athro prifysgol, ac yn ddarlledydd ac  eiriolydd cydraddoldeb sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd fel Cyfarwyddydd Casgliadau ac Uwch Guradur y Sharjah Art Foundation, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Yn awdur neu’n gyd-awdur dros 40 o lyfrau, cyhoeddwyd y gyfrol ddiweddaraf, Internet_Art: From the Birth of the Web to the Rise of NFTs gan Phaidon yn 2023. Mae Dr Kholeif wedi curadu dros 70 o arddangosfeydd, gyda nifer yn cael eu cynnal  tra mewn swyddi curadurol uwch mewn amgueddfeydd, gwyliau celf bob dwy flynedd a gwyliau gan gynnwys y Tate; MCA Chicago; FACT Lerpwl; Cornerhouse, Manceinion; yr ICA; y Whitechapel Gallery; a SPACE, Llundain. Gwasanaethodd fel curadur y gwyliau bob dwy flynedd – y Sharjah a Lerpwl, yn ogystal â Churadur y Cyprus Pavilion yn 56ed Biennale Fenis, a gymerodd le yn yr Eidal a’r Aifft; dilynwyd hyn gan Time, Forward! yn y 58fed Biennale Fenis. Yn 2012, Kholeif oedd sylfaenydd artPost21, asiantaeth ddielw sy’n cefnogi creadigrwydd ar ymylon cymdeithas. Kholeif yw sylfaenydd a golygydd comisiynu imagine/otherwise a gyhoeddir gan Sternberg Press, prosiect sy’n mentro i fywydau ffigurau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy’r posibilrwydd o “sefydlu’r byd benywaidd”.

 

 

Mae gan Dr. Hawzhin Azeez PhD mewn gwyddoniaeth wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Newcastle, Awstralia. Ar hyd o bryd, hi yw Cyd-Gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Gwrdaidd (y gangen Saesneg) yn ogystal â sylfaenydd The Middle Eastern Feminist. Dysgodd ym Mhrifysgol Americanaidd Irac, Sulaimani (AUIS), yn ogystal â bod yn ysgolhaig gwadd yn eu CGDS (Canolfan ar gyfer Rhywedd a Datblygiad). Mae hi wedi gweithio’n agos gyda ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol yn Rojava tra’n aelod o Fwrdd Ailadeiladu Kobane ar ôl ei ryddhau wrth ISIS. Mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys deinameg rhywedd, ail-greu ac adeiladu cenedl ar ôl gwrthdaro, cyd-ffederaliaeth ddemocrataidd ac astudiaethau Cwrdaidd.

 

 

Mae Shahram Khosravi yn gyn yrrwr tacsis, ac ar hyn o bryd, mae’n Athro Anthropoleg, yn ddamweiniol, ym Mhrifysgol Stockholm.

 

 

YouTube player