At The Table gyda Taloi Havini
Yng nghwmni Wanda Nanibush a Leanne Betasamosake Simpson
10 Ionawr 2024
19:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle
Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.
Bydd Taloi Havini yn sgwrsio â Wanda Nanibush, Curadur Celf Gynhenid a chyd-bennaeth yr Adran Gelf Gynhenid a Chanada yn Oriel Gelf Ontario (AGO), Toronto a’r awdur, y cerddor Leanne Betasamosake Simpson.
Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.
Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.
Credit: Taloi Havini - Credit Zan Wimberley
Credit: Wanda Nanibush
Credit:
Ganwyd Taloi Havini (g 1981, Llwyth Nakas, pobl Hakö) yn Arawa, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville, ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Brisbane, Awstralia. Mae ei hymarfer ymchwil yn seiliedig ar ei chysylltiadau ar ochr ei mam â’i gwlad a chymunedau yn Bougainville. Amlygir hyn mewn gwaith a grëwyd gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain a fideo, cerfluniau, gosodiadau trochi a phrint.
Mae’r Anishinaabe-kwe, Wanda Nanibush yn rhyfelwraig delweddau a geiriau, curadur a threfnydd cymunedol o Genedl Gyntaf Beausoleil. Ar hyn o bryd Nanibush yw curadur cyntaf Celf Frodorol a chyd-bennaeth yr Adran Gelf Frodorol a Chanadaidd yn Oriel Gelf Ontario (AGO), Toronto.
Leanne Betasamosake Simpson yw awdur Michi Saagiig Nishnaabeg, ac mae hi’n gerddor, yn unigolyn hyddysg, ac yn aelod o Alderville First Nation. Mae hi wedi ysgrifennu wyth o lyfrau blaenorol gan gynnwys y nofel Noopiming: A Cure for White Ladies, a Rehearsals for Living a gyd-ysgrifennwyd gyda Robyn Maynard.