A black and white portrait image of Deep K Kailey taken whilst delivering a talk

Celf Cydbwysedd

Archwiliwch sut i gydbwyso, eich bywyd a chelf

Ar-lein

22 Gorffennaf
10 - 11:30yb
Am ddim
Cliciwch yma i archebu

Ymunwch â ni am sgwrs gyda Deep K Kailey, wrth iddi drafod y grefft o gydbwyso mewn byd sy’n llawn straen, disgwyliadau personol a chymdeithasol, a’r angen parhaus i lwyddo.

 

 

Archwilio’r byd o gydbwyso, lle mae hunan-ddarganfod, dyheadau a disgwyliadau allanol yn croestorri. Dysgu am reoli amser yn effeithiol, meistroli cydbwysedd mewnol ac allanol, a datgloi pŵer trawsnewidiol creadigrwydd i’r meddwl.

 

 

Dyma beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn ystod y sesiwn:

  • Y ffordd orau o reoli’ch amser
  • Rhyddhau eich hun rhag disgwyliadau afrealistig
  • Bod yn bresennol i chi eich hun
  • Cael cydbwysedd rhwng eich bywyd a’ch gyrfa fel artist a/neu weithiwr celf proffesiynol

 

 

Bywgraffiad:

Mae Deep K Kailey yn guradur creadigol, yn gyfarwyddwr artistig ac yn archwiliwr diwylliannol. Hi yw’r math o berson rydych chi’n troi ato pan nad yw’r byd yn gwneud synnwyr. Yn gyn-gyfarwyddwr ffasiwn i Tatler, ac yn olygydd ffasiwn i Vogue India, aeth Deep o fod yn steilio ffigurau eiconig byd-eang i fod yn egluro’r broses o ddeall y meddwl i gynulleidfaoedd cyfoes ledled y DU.

 

 

A hithau wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau, creu cysylltiadau, a chreu llwybrau tuag at hunan-ddealltwriaeth, sefydlodd Deep y sefydliad celfyddydol Without Shape Without Form, gan ddod â chelf, ysbrydolrwydd a llesiant meddwl at ei gilydd. Mae gwaith Deep yn brawf o bŵer creadigrwydd, a’r gallu sydd ganddo i gysylltu pobl ac ysbrydoli hunan-ddarganfod mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy ansicr a darniog.

Credit: