A man wearing glasses reads from white sheets of paper as he delivers a workshop to people sat on chairs.

Contractau Artistiaid gyda Jack Ky Tan

9 Chwefror 2024
Ar-lein
11:00 yb - 1:00 yp
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wrth i chi ddatblygu eich gyrfa greadigol fel artist/cynhyrchydd creadigol, mae’n bwysig gwybod beth yw beth wrth gydweithredu a gweithio gyda sefydliadau celfyddydau a threftadaeth. Un o’r ffyrdd o wneud hyn yw deall y contractau rydych chi’n eu llofnodi, sut mae diogelu eich hun a’ch arferion artistig a chreadigol, ac yn bwysig iawn, datblygu eich rheolaeth greadigol.

 

Ymunwch â’r artist Jack Ky Tan wrth iddo esbonio beth yw contract, sut mae darllen un, sut mae ysgrifennu a datblygu eich contract eich hun, negodi, a datblygu rheolaeth i fodloni eich anghenion fel unigolyn creadigol.

Dyma gewch chi o’r gweithdy hwn:

  • Dealltwriaeth ddyfnach o sut mae contractau creadigol/artistiaid yn gweithio
  • Sut mae ysgrifennu a llunio eich contract eich hun sy’n ystyried eich anghenion mynediad ac artistig
  • Datblygu eich sgiliau negodi
  • Sut mae ysgrifennu atodiadau hygyrchedd ac anghenion fel rhan o’ch contract
  • Sut mae eirioli dros eich hawliau
  • Datblygu eich rheolaeth artistig yn ogystal â’ch entrepreneuriaeth greadigol
  • Sut mae llywio’r diwydiant celfyddydau a threftadaeth

Mae Jack Ky Tan (g 1971, Singapore) yn artist rhyngddisgyblaethol sy’n byw yn y DU. Gan weithio ar draws y meysydd perfformio, cerflunio, y gyfraith a llunio polisïau, mae ei ymarfer yn archwiliad parhaus o gyfiawnder cymdeithasol sy’n pylu’r ffiniau rhwng celf, y gyfraith, llywodraethu ac ymgynghori. Gan edrych ar gosmolegau a systemau gwybodaeth amgen sy’n rhagflaenu naratifau Iddewiaethol-Cristnogol neu wladychol, mae Tan yn archwilio gwaddol gwladychiaeth gyda diddordeb penodol mewn epistemolegau ymwrthedd Gweriniaethol a Throfannol. Drwy gwestiynu sut mae strwythurau cymdeithasol sydd wedi’u gwreiddio yn ffurfio ein cyfreithiau ac yn llywio ein hymddygiad, mae gwaith Tan yn ceisio ailfeddwl ein cysylltiad â’r byd dynol a’r byd y tu hwnt i bobl, ac yn edrych ar ffyrdd amgen o fyw a gweithio.

 

Yn wreiddiol, bu Tan yn astudio ac yn hyfforddi yn y gyfraith [LL.B (Hull), MA mewn Cyfiawnder Cymdeithasol (UCL)] a bu’n gweithio i gyrff anllywodraethol hawliau sifil Prydain cyn cael BA(Anrh) mewn Cerameg ym Mhrifysgol Harrow/Westminster ac MA yn y Coleg Celf Brenhinol. Yna cwblhaodd Jack PhD seiliedig ar ymarfer ym Mhrifysgol Roehampton lle bu’n archwilio estheteg gyfreithiol a chelf perfformio drwy ei weithiau Karaoke Court a Voices From The Court. Mae wedi dysgu MA Cerflunio yn y Coleg Celf Brenhinol ac MA Gwleidyddiaeth a Chelf yn Goldsmiths.

 

*Mae’r rhaglen hon yn rhan o Held Space (Rwydwaith Artistiaid BIPOC Cymru) gydag AM.