Cyfleu eich Ymarfer Creadigol Rhyngddisgyblaethol

Cyfleu eich Ymarfer Creadigol Rhyngddisgyblaethol gyda Claudia Kennaugh – Art & People

28 Mawrth 2024
Ar-lein
10:30 yb - 12:00 yp
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Gall gyrfa greadigol amlweddog fod yn anhygoel ond yn anodd ei chyfleu. Pan fydd gofyn i chi siarad mewn digwyddiadau, pan fyddwch chi’n ceisio datblygu eich gwefan, neu pan fyddwch chi’n mynd i ragarddangosfa, ac mae rhywun yn gofyn y cwestiwn brawychus, “beth yw eich ymarfer creadigol?” rydych chi’n corddi y tu mewn ac yn ansicr beth yw’r ffordd orau o ymateb.

 

 

Ymunwch â Claudia Kennaugh, sylfaenydd Art & People, wrth iddi eich hyfforddi ar sut i gyfleu eich ymarfer(ion) yn well a theimlo’n hyderus yn yr hyn rydych chi’n ei gynnig fel artist / cynhyrchydd creadigol sy’n gweithio ym maes y celfyddydau a threftadaeth.

 

 

Yn y gweithdy, byddwch yn:

  • Datblygu ffordd bwrpasol o’ch cynrychioli chi eich hun a’ch ymarfer yn well
  • Deall hanfodion sut i gyflwyno ymarfer artistig amlweddog
  • Archwilio sut mae eich ymarferion yn cysylltu â’i gilydd, yn cyfeirio at ei gilydd ac yn cael eu dehongli ar-lein ac wyneb yn wyneb
  • Yn ogystal â’r gweithdy, cewch sesiwn un-i-un i gyd-drafod cynnwys gyda Claudia, lle cewch adborth ac arweiniad personol

Cyn lansio Art & People yn 2019, bu’r sylfaenydd, Claudia Kennaugh, yn gweithio yn y celfyddydau am 15 mlynedd. Bu’n gerddor ac yn artist perfformio yn gyntaf, yna’n rheolwr oriel, ac yna’n gynghorydd celf ac yn bartner yn Oriel Hollywood Road, Llundain.

 

 

Yn ystod y blynyddoedd lle bu’n cyd-redeg yr oriel – a sefydlwyd gan ei theulu yn 1980 – bu’n curadu ffeiriau ac arddangosfeydd rif y gwlith, gyda gwaith celf o’r DU, Ewrop a De America. Roedd hi’n meithrin gyrfaoedd yr artistiaid roedd yr oriel yn eu cynrychioli yn ofalus, ac yn cynnig gwasanaethau pwrpasol i gasglwyr, gan eu helpu i brynu, fframio a gosod celf yn eu cartrefi. Yn sgil y galw cynyddol am ei dull personol, cafodd Claudia ei chymell i fentro allan a dechrau gwasanaeth cynghori ar gyfer artistiaid a chasglwyr fel ei gilydd.

 

 

Heddiw, mae Art & People yn darparu cymorth datblygiad proffesiynol i artistiaid drwy sesiynau hyfforddi un-i-un, gweithdai a thiwtorialau ar-lein. Mewn partneriaeth â sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bow Arts, Spike Island a Stiwdios Celf Wimbledon, mae Claudia yn helpu i feithrin cymunedau o artistiaid ffyniannus gyda’i sesiynau grŵp difyr. Mae mynediad at gyngor celf yn allweddol ac eleni, rhannodd Claudia ei harbenigedd fel mentor artistiaid ar y rhaglen deledu ‘Make it at Market’ ar BBC One.