Datblygu Gyrfa Greadigol Gynaliadwy gyda Ceri Hand

Datblygu Gyrfa Greadigol Gynaliadwy gyda Ceri Hand

Ar-lein

24 Mai 2024
10:00 yb - 12:00 yp
Am ddim
Cliciwch yma i archebu

Ymunwch â’r arbenigwr celfyddydau Ceri Hand yn y sesiwn ar-lein hanfodol hon lle bydd hi’n rhannu ei phrofiad a’i doethineb ynglŷn â’r pum hanfod llwyddiant: Creu, Sgil-effaith, Cymuned, Hyder ac Arian. Gyda chyngor ac awgrymiadau ymarferol, byddwch yn dysgu sut i ddatblygu ac ennill arian drwy wneud yr hyn rydych chi’n frwd drosto. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fynd â’ch gyrfa greadigol i’r lefel nesaf!

 

 

Dyma fydd y sesiwn hon yn ei gynnig i chi:

  • Sut i wneud y gorau o’ch gyrfa a llywio drwy’r sector yn hyderus
  • Adeiladu gyrfa gynaliadwy a allai gynnig hirhoedledd i chi
  • Defnyddio eich creadigrwydd i ddatgloi cyfleoedd newydd a strategaethau arloesol, ehangu eich rhagolygon creadigol a sbarduno twf ariannol.

 

 

Bywgraffiad:
Cyn dod yn hyfforddwr ardystiedig ac yn sylfaenydd ‘Ceri Hand’, bu Ceri yn gweithio’n helaeth yn y sector celfyddydau a diwylliant fel curadur, arweinydd creadigol a chyfarwyddwr oriel. Mae hyfforddiant trawsnewidiol Ceri yn grymuso pobl greadigol i gael 10 gwaith yn fwy o effaith yn y byd. Drwy ddarparu arweiniad wedi’i deilwra, technegau newydd, a safbwyntiau ffres, bydd Ceri yn eich helpu i oresgyn rhwystrau, rhoi hwb i’ch incwm, a meithrin gwydnwch er mwyn gallu gwneud newid parhaus yn eich gyrfa greadigol.

 

 

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw artist ar unrhyw lefel. Dewch i ymuno â ni i gael y cyngor gorau ar sut i greu gyrfa y gallwch fod yn falch ohoni.

 

 

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar Zoom. Os oes gennych chi anghenion hygyrchedd, anfonwch e-bost at beloved.adonai@artesmundi.org.