FFILM: Beatriz Santiago Muñoz

FFILM:
Beatriz Santiago Muñoz

Dydd Sul 25ain Gorffennaf
11:00 - 14:00 BST

g39
Am ddim

Bydd dangosiadau'n cael
eu cynnal ar adegau penodol
ac yn gyfyngedig i 5 o bobl.


Cliciwch yma i archebu nawr

Byddwn yn cyflwyno dwy ffilm gan Beatriz Santiago Muñoz. 

 

La Cueva Negra, 2012 

Hyd: 20’00” 

 

Mae La Cueva Negra yn brosiect delwedd symudol a chyfres o luniau sy’n archwilio safle’r Paso del Indio fel ystorfa haenog o hanes symbolaidd a materol. Mae’r safle’n adnabyddus yn y gymuned archaeolegol. Ugain mlynedd yn ôl, wrth i waith adeiladu priffordd aml-lôn fynd rhagddo, darganfuwyd safle claddu brodorol cymhleth (Hynafol o bosibl, ond Cyn-Taíno a Taíno yn bendant) a llawer o wrthrychau a gweddillion. Ond cafodd y safle ei balmantu er mwyn adeiladu’r ffordd gyflym. Gellir gweld bod gan Paso del Indio sawl hanes sy’n gwrthdaro, sydd wedi’u hymgorffori yn y dirwedd a’r amgylchedd adeiledig. Yn ystod y gwaith cloddio gwreiddiol (1992-1995) cyflogwyd gweithwyr o’r pentrefi cyfagos i weithio â llaw. Mae’r prosiect yn dechrau o hanes materol y safle, atgofion y gweithwyr a’r archaeolegwyr dan sylw, yr hyn a wyddom, a’r hyn y tybiwn ein bod yn ei wybod am dirwedd a sut mae’r haenau hyn o ddeunydd a chredoau’n rhyngweithio i greu cosmogoni cyfoes newydd, un wedi’i adeiladu ar y llanast, y graffiti, y ffordd gyflym, yr afon, y pentref , y creigwely carst ac olion syniadau trigolion blaenorol am y byd.

 

La cabeza mató a todos, 2014 

Hyd: 7’30” 

 

Ffilm fer yw La cabeza mató a todos neu “Y Pen a Laddodd Bawb”, sy’n cymysgu mytholegau brodorol â chymeriadau, daearyddiaeth a diwylliant presennol ym Mhuerto Rico. Mae’r teitl yn cyfeirio at sut y dehonglwyd seren wib (mewn mytholeg leol) fel pen heb gorff, yn croesi’r wybren, yn arwydd o anhrefn a dinistr yn cyrraedd. Mae’r actor yn y fideo, Michelle Nonó, mewn cysylltiad â phlanhigion brodorol — mae’n fotanegydd meddyginiaethol ond hefyd yn weithredydd diwylliannol — sy’n cynnal digwyddiadau diwylliannol yn ei thŷ, mewn ardal Affro-Caribïaidd ac ôl-ddiwydiannol yn bennaf o’r enw Carolina. 

 

 

Cyfarwyddiadau i ddinistrio peirianwaith rhyfel gyda swyn. Mae ffurf y swyn hwn yn fanwl. Gyda Mapenzi Chibale Nonó 

[Mae’r gath yn egluro wrth Michelle sut i greu swyn. Fe’i clywir yn llais Michelle (drwy’r gath):
mae swyn, neu felltith yn gofyn am ymdrech sy’n cyfateb i hud y swyn
os mai’r hud yw dinistrio’r peiriant rhyfel yn llwyr ac yn derfynol
os mai’r hyn yr ydych am ei wneud yw datgysylltu angor yr awyrlong
sy’n torri yn eu hanner fel swyn cneuen Ffrengig
sy’n gofyn am gryn egni i’w bwyta] 

 

 

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag g39 i ddangos cyfres o ffilmiau gan artistiaid ar restr fer sy’n rhan o Artes Mundi 9. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos yn rheolaidd yn y gofod sinema newydd drwy gydol mis Gorffennaf, Awst a Medi. Bydd y rhaglen hon yn digwydd ochr yn ochr â’r arddangosfa biennial yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter.