FFILM: Carrie Mae Weems (g39)

FFILM:
Carrie Mae Weems (g39)

Dydd Sadwrn 4ydd Medi
17:00 - 20:00 BST

g39
Am ddim

Bydd dangosiadau'n cael
eu cynnal ar adegau penodol
ac yn gyfyngedig i 5 o bobl.


Cliciwch yma i archebu nawr

Byddwn yn cyflwyno dwy ffilm gan Carrie Mae Weems.

 

Constructing History: A Requiem to Mark the Moment, 2008 

Hyd: 20’04’’ 

 

Mae Constructing History: Requiem to Mark the Moment, 2008, yn cyflwyno hanes fel dilyniannau, ‘stori o fewn stori’, wrth i Weems adrodd ar ddechrau’r ffilm. Mae Construcing History, a saethwyd yn Atlanta gyda myfyrwyr Coleg Celf a Dylunio Savannah (SCAD) a’i chynhyrchu gan SCAD a’r National Black Arts Festival, yn gosod eiliadau o drais a newid cymdeithasol mewn haenau ac yn dangos aflonyddwch ar lwybr hanes a meddwl yr 20fed Ganrif. Dywed Weems fod ‘goleuadau llachar hanes yn disgleirio arnynt bellach’, mae’r bobl ifanc yn ail-greu cyfres o eiliadau sylfaenol adnabyddus gan gynnwys llofruddiaeth Martin Luther King Jr, mam yn cysuro ei merch yn ei breichiau yn sgil bom atomig Hiroshima a golygfa ddamcaniaethol o James Earl Ray myfyrgar wrth iddo edrych ar ei wn. Torrir ar draws yr ystyron dwfn hyn a’r natur theatraidd a gaiff ei chreu gan ddelweddau Super-8 anhrefnus o straeon newyddion oddi ar deledu Weems ei hun a’u cyfeirio at y presennol gyda phortreadau bach du a gwyn preifat eu natur o Barak Obama a Hillary Clinton yn ystod enwebiad arlywyddol Democrataidd 2008.

 

 

The Baptism, 2020  

Hyd: 11’35’’ 

 

Mae The Baptism, 2020 wedi’i chyfarwyddo gan yr artist Carrie Mae Weems a’i hysgrifennu a’i pherfformio gan y bardd arobryn Carl Hancock Rux. Mae’r gwaith yn seiliedig ar Baptism (of The Sharecropper’s Son & The Boy From Boonville) gan Rux, cerdd tair rhan a theyrnged i’r arweinwyr hawliau sifil John Lewis a C.T. Vivian. Yn The New York Times, galwodd Maya Phillips y darn yn ‘waith sy’n rhyddhau ac yn radical mewn ffordd nad yw celfyddyd Ddu yn cael bod yn aml o gwbl.’ Mae Carrie Mae Weems yn adnabyddus iawn fel un o’r artistiaid Americanaidd byw mwyaf dylanwadol, ac mae’n archwilio sut mae ein cymdeithas yn strwythuro grym drwy straeon, delweddau a syniadau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae’n storïwraig ddawnus sy’n gweithio’n ddirwystr rhwng testun a delwedd, ac mae wedi datblygu dull chwyldroadol o fynegi naratifau am fenywod, pobl groenliw a chymunedau dosbarth gweithiol. Rhybudd ynghylch y Cynnwys: Cynghorir arweiniad gan rieni a disgresiwn y gwyliwr. Efallai y bydd rhai o’r golygfeydd yn y ffilm yn peri gofid i rai gwylwyr.

 

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag g39 i ddangos cyfres o ffilmiau gan artistiaid ar restr fer sy’n rhan o Artes Mundi 9. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos yn rheolaidd yn y gofod sinema newydd drwy gydol mis Gorffennaf, Awst a Medi. Bydd y rhaglen hon yn digwydd ochr yn ochr â’r arddangosfa biennial yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter.