
FFILM:
Dineo Seshee Bopape
Dydd Gwener 20fed Awst
17:00 - 20:00 BST
g39
Am ddim
Bydd dangosiadau'n cael
eu cynnal ar adegau penodol
ac yn gyfyngedig i 5 o bobl.
Cliciwch yma i archebu nawr
Title unknown at time of publication, 2018
Hyd: 33’40’’
Mae sgript y ffilm wedi’i seilio’n fras ar drawsgrifiadau achos llys treisio rhywiol Khwezi vs. J Z yn y flwyddyn ______.
Aeth Khwezi (ffugenw) ag ____, Is-lywydd De Affrica ar y pryd i’r uchel lys gyda chyhuddiad o dreisio rhywiol.
Dywedwyd llawer o bethau yn ystod, cyn ac ar ôl y treial…. am y dioddefwr, y sawl a gyhuddwyd o drais rhywiol, y buddugol, y sawl a dreisiwyd, y treisiwr, y tystio- ei hun/gan rywun arall, am yr adroddiad, am y ‘diwylliannol’ a mwy.
Nid yw’r teitl -crynodeb o’r digwyddiadau, y stori, nad yw ei rhesymeg yn gwbl hysbys eto, er bod y sgript yn hysbys i bawb.
Rhybudd ynghylch y Cynnwys: Cynghorir arweiniad gan rieni a disgresiwn y gwyliwr. Efallai y bydd y fideo hwn yn peri gofid i rai gwylwyr gan ei fod yn cynnwys delweddau a disgrifiadau llafar o drais corfforol a rhywiol, a threisio rhywiol.
Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag g39 i ddangos cyfres o ffilmiau gan artistiaid ar restr fer sy’n rhan o Artes Mundi 9. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos yn rheolaidd yn y gofod sinema newydd drwy gydol mis Gorffennaf, Awst a Medi. Bydd y rhaglen hon yn digwydd ochr yn ochr â’r arddangosfa biennial yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter.