FFILM: Meiro Koizumi

FFILM:
Meiro Koizumi

Dydd Mawrth 17eg Awst
11:00 - 14:00 BST

g39
Am ddim

Bydd dangosiadau'n cael
eu cynnal ar adegau penodol
ac yn gyfyngedig i 5 o bobl.



Cliciwch yma i archebu nawr

AntiDream #2 Torch Ritual Edit, 2021 

Hyd: 28’00’’ 

 

​​​​Mae’r fideo newydd hwn gan Koizumi, AntiDream #2, yn gwaith sain y disgwylir i’r gynulleidfa wrando arno yn y man mwyaf gorlawn yn y dinasoedd y maent yn byw ynddynt. Yn y gwaith, mae’r llais mecanyddol yn ceisio troi’r dinaslun o dan y pandemig yn amharadwys awdurdodaidd. “Mae “AntiDream #2 Torch Ritual Edit” yn arosodiad heb ei olygu o’r gwaith sain hwn a’r lluniau fideo presennol o daith gyfnewid y fflam ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo ar y rhyngrwyd. Yn ôl pôl piniwn, nid yw 70 y cant o bobl am i’r Gemau Olympaidd gael eu cynnal yn ystod y pandemig, ond mae llywodraeth Japan, sy’n awyddus iawn i’w cynnal. Maent yn gwario $100 miliwn i fwrw ymlaen â thaith gyfnewid y fflam, tra bod llawer o bobl yn marw o’r Coronafeirws oherwydd diffyg gwelyau yn yr ysbyty. Mae yna groesddewud wrth i’r sefyllfa o amgylch y Gemau Olympaidd droi’n fwy a mwy hyll, y cryfaf y daw’r gwaith. Mae’r gwaith ar YouTube i gyrraedd cynulleidfa ehangach  

 

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag g39 i ddangos cyfres o ffilmiau gan artistiaid ar restr fer sy’n rhan o  Artes Mundi 9. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos yn rheolaidd yn y gofod sinema newydd drwy gydol mis Gorffennaf, Awst a Medi. Bydd y rhaglen hon yn digwydd ochr yn ochr â’r arddangosfa biennial yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter.