LATES: AM10 *WEDI'I GANSLO*
Amdueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
9 Chwefror 2024
7:00 pyp - 11.30 yp
Pris Sgwrs Gyda & Hwyrnos: £16 | Hwyrnos yn unig: £12
Cliciwch yma i gadw’ch lle
Dewch i ddathlu celf gyfoes ac arddangosfa Artes Mundi 10 yn nigwyddiad hwyr y nos nesaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Disgwyliwch noson llawn cerddoriaeth, gweithgareddau, perfformiadau, bwyd a diod.
Bydd y noson yn digwydd yn y Brif Neuadd ac orielau’r Amgueddfa*, gan roi llwyfan i greadigrwydd a thalent, a chynnig cyfle i rannu, cysylltu, a myfyrio ar y themâu sy’n cael eu codi gan y lleisiau creadigol. Dathlwch Gaerdydd fel Dinas Noddfa wrth i ni arddangos talentau artistiaid a phobl greadigol sydd wedi dod i gyfri Caerdydd yn gartref.
Credit:
Y Rhaglen
6:00 yp – 7:00 yp
Lleoliad: Arddangosfa Artes Mundi 10
Sgwrs gyda Mujib Yahaya, Shirish Kulkarni, ac Ogechi Dimeke.
Ymunwch â ni am sgwrs arbennig sy’n edrych ar Gaerdydd fel Dinas Noddfa a sut bod hynny’n arwain at gyfraniadau anhygoel i’n diwylliant a’n cymdeithas. Bydd y sgwrs yn cael ei harwain gan Natasha Gauthier.
*Mae angen prynu tocyn i’r elfen yma o’r rhaglen. Mae’n rhaid archebu tocynnau o flaen llaw.
6:00 yp – 7:00 yp
Lleoliad: Arddangosfa Artes Mundi 10
Sgwrs gyda Mujib Yahaya, Shirish Kulkarni, ac Ogechi Dimeke.
Ymunwch â ni am sgwrs arbennig sy’n edrych ar Gaerdydd fel Dinas Noddfa a sut bod hynny’n arwain at gyfraniadau anhygoel i’n diwylliant a’n cymdeithas. Bydd y sgwrs yn cael ei harwain gan Natasha Gauthier.
*Mae angen prynu tocyn i’r elfen yma o’r rhaglen. Mae’n rhaid archebu tocynnau o flaen llaw.
7.30 yp – 10:00 yp
Lleoliad: Prif Neuadd yr Amgueddfa
Oasis Global Eats; Bwyd Ysbrydoledig gan Bobl Ysbrydoledig
Dewch i ddarganfod y danteithion sydd ar gael yng Nghegin Falafel Global Eats gan Dîm Arlwyo Oasis.
*Dydy pris y tocyn ddim yn cynnwys bwyd. Bydd bwyd ar gael i’w brynu rhwng 7.30 yp – 10:00 yp.
Embroidery Workshop, with Aurora Trinity Collective
Aurora creates a safe and welcoming space for refugees and people seeking asylum, whilst encouraging access to, and active engagement in cultural creativity.
Participate in a collective textile artwork that reflects the spirit of Aurora Trinity Collective.
7:45 yp – 9:30 yp
Lleoliad: Arddangosfa Artes Mundi 10
Arddangosfa Artes Mundi 10
Cyfle i weld Artes Mundi 10 ar ôl i’r orielau gau.
Mae yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys arddangosiadau o waith hen a newydd gan Rushdi Anwar, Mounira Al Solh ac Alia Farid. A gyda hi’n 20 mlynedd ers yr Artes Mundi cyntaf, mae gwaith gan Berni Searle o’r arddangosfa gyntaf honno hefyd yn cael ei ddangos.
Ar draws Cymru bydd cyflwyniadau unigol gan bob artist yn trafod cysylltiad â thir, hanesion a thiriogaethau dadleuol, cwestiynu cenedligrwydd a’i effaith amgylcheddol, a sut mae’r syniadau hyn yn herio dealltwriaeth gyffredin o hunaniaeth a pherthyn.
Gweithdy Brodwaith gydag Aurora Trinity Collective
Mae Aurora yn creu gofod diogel a chroesawgar i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, wrth annog ymgysylltu a mynediad at greadigrwydd diwylliannol.
Dewch i gyfrannu at greu gwaith celf tecstilau, sy’n adlewyrchu ysbryd Aurora Trinity Collective.
Gweithdy creadigol Mappa Mundi, gyda Celf ar y Cyd
Cymerwch eiliad i feddwl am y byd rydych chi’n byw ynddo, neu’r byd hoffech chi fyw ynddo. Sut ydych chi’n gweld y byd? Beth sydd bwysicaf i chi? Nesaf, meddyliwch am fap o’r byd. Beth fyddai’n cael ei gynnwys? A fyddai’r cyfandiroedd yr un fath, neu a fyddai’n un cyfandir mawr efallai? A fyddai unrhyw gyfandiroedd o gwbl, neu un môr enfawr? Cymerwch ran mewn gweithdy creadigol dan arweiniad tîm Celf ar y Cyd wedi’i ysbrydoli gan Mappa Mundi Paul Davies. Dewiswch ddeunyddiau i greu eich map delfrydol o’n byd. Bydd ffotograffydd Celf ar y Cyd, Rhian, yn dogfennu pob map gaiff ei greu yn ystod y digwyddiad i’w dangos ar wefan Celf ar y Cyd.
Beth yw Celf ar y Cyd?
Fel rhan o’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, mae’r wefan newydd, Celf ar y Cyd, yn gwneud casgliad celf gyfoes y genedl yn Amgueddfa Cymru yn haws i’w weld nag erioed o’r blaen. Mae’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn fenter newydd gyffrous sydd â’r nod o rannu’r casgliad ledled y wlad. Dewch i gwrdd â’r tîm a dysgu am y project. Cymerwch olwg ar y wefan newydd sbon, lle cewch ddysgu a chael eich ysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol.
Gwybodaeth Bwysig
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer oedolion yn unig [18+]. Mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i weld prawf ID ar y drws.
Dydy pris y tocyn ddim yn cynnwys bwyd na diod, a bydd angen i chi brynu’r rhain ar y noson.