Hwyrnos: Y FAGDDU gyda June Campbell-Davies

Hwyrnos: Y FAGDDU gyda June Campbell-Davies

Sometimes we're invisible

Dydd Iau 6 Mai 2021
7:00pm BST
Ar-lein

£6.60
Gostyngiad o 15% os yn prynu tocynnau i'r 4 digwyddiad gyda'i gilydd

Addasrwydd 16+

Cliciwch yma i archebu nawr

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi yn gyffrous i gyhoeddi Hwyrnos: Y FAGDDU, gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn dathlu Düwch fel peth diderfyn a diddiwedd.

 

Mae’r gyfres yn cynnwys comisiynau aml-gyfrwng sy’n trafod effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes, ac edrych ar ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.

 

Credit:

Credit:

Ymholiad drwy berfformiad yw Sometimes we’re invisible, sy’n ystyried presenoldeb pobl Ddu yng ngweithiau celf casgliad hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gan ddefnyddio iaith Dawns, Symboliaeth a Delweddaeth a chyfeiriadau at Drefedigaethu, bydd yn berfformiad i gyfeiliant seinwedd wedi’i gynhyrchu gan Ffion Campbell-Davies. Caiff oriel gelf hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei thrawsnewid a’i haddurno ag olion gorffennol a fyddai fel arall ynghudd. Mae’r llwyfan wedi ei gosod i Campbell-Davies ddatguddio drwy symudiad y grym a’r pwysau a ddaw yn sgil ein cysylltiadau hynafol.

 

Amserlen:

7.00pm – Sometime we’re invisible gan June Campbell-Davies

7.50pm – YN FYW: Sesiwn holi ac ateb gyda June Campbell-Davies

8.35pm – Egwyl

8.50pm – YN FYW: Sesiwn Hunan Bortread Trawffurfiol gydag Abike Ogunlokun

9.30pm – Taith Celf ac Arteffactau Du (rhan 1)

9.45pm – Egwyl

10.00pm – Set DJ

Amcan amseroedd – byddwn yn rhannu’r amserlen lawn gyda deiliaid tocynnau rai dyddiau cyn y digwyddiad.

 

Dawnsiwr, coreograffydd ac athro o Gaerdydd yw June Campbell-Davies, sydd wedi gwneud ei henw wrth fyw bywyd theatraidd. Mae ei hymwneud â Charnifal y Môr, BACA a Chanolfan Mileniwm Cymru mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 wedi arwain at bartneriaethau a chydweithrediadau newydd. Ar hyn o bryd mae June yn gweithio fel hwylusydd symud a Chyfarwyddwr ar Oasis One World Choir.

 

Bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno digwyddiadau bob nos Iau drwy gydol mis Mai 2021 gan gynnwys gweithiau newydd eofn gan artistiaid Y FAGDDU – Gabin Kongolo, June Campbell-Davies, Omikemi ac Yvonne Connikie – a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Ynghyd â’r comisiynau hyn, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau Hanes Du arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.