Hwyrnos: Y FAGDDU gyda Gabin Kongolo

Hwyrnos: Y FAGDDU

Gabin Kongolo: NDAKO (Home)

Dydd Iau 13 Mai 2021
7:00 pm BST
Ar-lein

£6.60
Gostyngiad o 15% os yn prynu tocynnau i'r 4 digwyddiad gyda'i gilydd

Addasrwydd 16+

Cliciwch yma i archebu nawr

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi yn gyffrous i gyhoeddi Hwyrnos: Y FAGDDU, gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn dathlu Düwch fel peth diderfyn a diddiwedd.

 

Mae’r gyfres yn cynnwys comisiynau aml-gyfrwng sy’n trafod effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes, ac edrych ar ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.

 

 

Credit: Credit: Gabin Kongolo

Cerdd ffilmig yw NDAKO (Home) sy’n datgelu natur farddonol y profiad o ddod i Gymru o’r Congo fel ffoaduriaid. Mae’r gwaith yn trafod profiad ffoadur mewn perthynas â breuddwydion, trafferthion ac esblygiad hunaniaeth ymhilth nifer o bobl sydd yn hanu o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo, ond sydd bellach wedi gadael cartref. Mae NDAKO (Home) yn seiliedig ar dystiolaeth Mam, Tad, Ewythr a Modryb Kongolo, ynghyd â’r gwneuthurwr ffilm Horeb Mubambo. Mae’r delweddau yn adlewyrchu’r teimladau a rannwyd drwy sgyrsiau gonest rhwng yr unigolion hyn a Kongolo, ynghyd â dangos llefydd fydd yn gyfarwydd i gymuned Congoaidd Caerdydd. Mae’r geiriau’n dod yn ddistylliad telynegol o fanylion personol yr hyn y mae’n ei olygu i symud drwy’r byd fel person wedi eu dadleoli.

Actor/bardd 22 mlwydd oed o Gaerdydd yw Gabin Kongolo. Ar ôl graddio o Brifysgol y Celfyddydau Creadigol gyda BA (Anrh) mewn Actio a Pherfformio, mae Kongolo wedi ymddangos yn Doctors ar y BBC, Bulletproof ar Sky One ac Against All Odds. Y tu hwnt i actio, mae barddoniaeth Kongolo wedi ymddangos ar y BBC ac wedi cael ei wylio dros 60,000 o weithiau ar-lein. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres farddoniaeth o’r enw Innocence, y mae’n ei ddatblygu yn seiliedig ar straeon a adroddwyd yng Nghaerdydd.

 

Amserlen:

7.00pm – NDAKO (Home) gan Gabin Kongolo

7.20pm – YN FYW: Sesiwn holi ac ateb gyda Gabin Kongolo

8.30pm – Egwyl

8.45pm – YN FYW: BONSOMI (Rhyddid) Gweithdy Defod Dod Adref gyda Gabin Kongolo a Nicole Ready

9.30pm – Taith Celf ac Arteffactau Du (rhan 2)

9.45pm – Egwyl

10.00pm – Set DJ

Amcan amseroedd – byddwn yn rhannu’r amserlen lawn gyda deiliaid tocynnau rai dyddiau cyn y digwyddiad.

 

Bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno digwyddiadau bob nos Iau drwy gydol mis Mai 2021 gan gynnwys gweithiau newydd eofn gan artistiaid Y FAGDDU – Gabin Kongolo, June Campbell-Davies, Omikemi ac Yvonne Connikie – a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Ynghyd â’r comisiynau hyn, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau Hanes Du arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.