Hwyrnos: Y FAGDDU
Omikemi: Dreaming Bodies
Dydd Iau 20 Mai 2021
7:00pm BST
Ar-lein
£6.60
Gostyngiad o 15% os yn prynu tocynnau i'r 4 digwyddiad gyda'i gilydd
Addasrwydd 16+
Cliciwch yma i archebu nawr
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi yn gyffrous i gyhoeddi Hwyrnos: Y FAGDDU, gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn dathlu Düwch fel peth diderfyn a diddiwedd.
Mae’r gyfres yn cynnwys comisiynau aml-gyfrwng sy’n trafod effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes, ac edrych ar ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.
Credit: Omikemi an African Carribean heritage person with short hair, speaking into a microphone, wearing a white tunic with a yellow beaded necklace
Gwaith celf sain wedi ei gynhyrchu fel cywaith yw Dreaming Bodies, wedi’i ddatblygu o ymholiad corfforol sy’n canolbwyntio ar ofal ar gyfer pobl Du LHDTQRhA+ anabl. Roedd sesiynau’r ymholiad yn defnyddio adnoddau’r Amgueddfa ac yn ymgorffori gweithgareddau megis arlunio bywyd, cerddi corff ac ymarferion symud meddylgar i ddychmygu’r dyfodolau yr ydym yn dymuno eu creu ac i feddwl am arferion a fydd yn gwneud ein bywydau’n fwy cynaliadwy a llawen. Dyma waith celf sy’n cysylltu’r syniadau o ymgyrchu cyfriniol, awto-imiwnedd a goruchafiaeth corfforol wrth chwilio am fwy o hunan-reolaeth ac ymchwilio i bosibiliadau ar gyfer gofal a chymunedau.
Amserlen:
7.00pm – Dreaming Bodies gan Omikemi
7.30pm – YN FYW: Sesiwn holi ac ateb gydag Omikemi
8.15pm – Egwyl
8.30pm – Carrie Mae Weems – Profiad Clywedol Artes Mundi
9.00pm – Taith Celf ac Arteffactau Du (rhan 3)
9.15pm – Egwyl
9.30pm – Set DJ
Amcan amseroedd – byddwn yn rhannu’r amserlen lawn gyda deiliaid tocynnau rai dyddiau cyn y digwyddiad.
Sgwennwr, hwylusydd, ymarferwr celf iachusol a threfnydd cymunedol yw Omikemi. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar greadigrwydd ar gyfer iechyd a gwella ac mae ganddynt ddiddordeb cynyddol mewn ymgyrchu cyfriniol. Mae eu cyweithiau diweddar yn cynnwys gwaith gyda Vital Xposure, Disability Arts Online ac Autograph Gallery London. Mae Omikemi hefyd yn trefnu Way-Making, gofod celfyddydol iachusol a chreadigol ar-lein sy’n canolbwyntio ar brofiad pobl Du.
Bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno digwyddiadau bob nos Iau drwy gydol mis Mai 2021 gan gynnwys gweithiau newydd eofn gan artistiaid Y FAGDDU – Gabin Kongolo, June Campbell-Davies, Omikemi ac Yvonne Connikie – a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Ynghyd â’r comisiynau hyn, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau Hanes Du arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.