Hwyrnos: Y FAGDDU gyda Yvonne Connikie

Hwyrnos: Y FAGDDU

Yvonne Connikie: A time for New Dreams

Dydd Iau 27 Mai 2021
7:00pm BST
Ar-lein

£6.60
Gostyngiad o 15% os yn prynu tocynnau i'r 4 digwyddiad gyda'i gilydd

Addasrwydd 16+

Cliciwch yma i archebu nawr

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi yn gyffrous i gyhoeddi Hwyrnos: Y FAGDDU, gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn dathlu Düwch fel peth diderfyn a diddiwedd.

 

Mae’r gyfres yn cynnwys comisiynau aml-gyfrwng sy’n trafod effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes, ac edrych ar ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.

 

Amserlen:

7.00pm – A time for New Dreams gan Yvonne Connikie

7.20pm – YN FYW: Sesiwn holi ac ateb gydag Yvonne Connikie

8.05pm – Egwyl

8.30pm – Dangosiad Ffilm: Tiger Bay and The Rainbow Club – 1

9.10pm – Break

9.30pm – Set Gerddorol

Amcan amseroedd – byddwn yn rhannu’r amserlen lawn gyda deiliaid tocynnau rai dyddiau cyn y digwyddiad.

Credit: Yvonne Connikie

Daw enw A time for New Dreams o deitl llyfr gan Ben Okri, casgliad o draethodau ar sut le yw’r byd a sut le y gallai fod. Amlygiad arbrofol, sy’n pontio cenedlaethau o freuddwydion cenhedlaeth Windrush yng Nghymru wedi’i ffilmio yng Nghasnewydd, ac yn seiliedig ar ddeunydd archif a thystiolaethau newydd. Mae’r gwaith A time for New Dreams yn myfyrio ar ddyheadau’r genhedlaeth Windrush fel Dinasyddion Gwâdd, ynghyd â’r hiliaeth a brofwyd ganddynt ar ôl cyrraedd. Gyda threigl amser, mae’r ffilm yn dogfennu sut mae Sgandal Windrush wedi troi’r breuddwydion hyn yn hunllef byw. Felly, nawr yw’r amser am freuddwydion newydd.

Ethnograffwr a churadur ffilm yw Yvonne Connikie sy’n arbenigo mewn sinema Du annibynnol. Yvonne oedd sylfaenydd Gŵyl Ffilmiau Du Cymru ac mae’n Gyd-sylfaenydd a Chadeirydd y New Black Film Collective ac yn Guradur Cynorthwyol ar gyfer Black London Film Heritage. Mae Yvonne hefyd yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio Gweithgareddau Hamdden Caribïaid Windrush yn Nhre Biwt, Caerdydd.

 

Bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno digwyddiadau bob nos Iau drwy gydol mis Mai 2021 gan gynnwys gweithiau newydd eofn gan artistiaid Y FAGDDU – Gabin Kongolo, June Campbell-Davies, Omikemi ac Yvonne Connikie – a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Ynghyd â’r comisiynau hyn, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau Hanes Du arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.