Not Sorry

Not Sorry

gan Stephanie Back

12 Tachwedd - 12 Rhagfyr


Ar-lein
Am ddim

Mae Artes Mundi a Taking Flight Theatre yn cyflwyno’r ffilm berfformio newydd Not Sorry. Yr artist Stephanie Back fydd yn ymddangos yn y perfformiad, a’r nod yw archwilio profiad yr artist o golli ei chlyw pan oedd yn 15 oed a’i ‘hailenedigaeth’ ar ôl darganfod Iaith Arwyddion Prydain, pan sylweddolodd fod hunaniaeth a diwylliant newydd o’i blaen.

 

Dilynwyd y perfformiad gan holi ac ateb byw gyda Stephanie Back ac Elise Davison (cyfarwyddwr artistig a phrif swyddog gweithredol taking flight), ac mae ar gael isod. Bydd Not Sorry, fersiwn wedi’i disgrifio a sain, a bydd yr holi ac ateb yn aros ar-lein tan 12 Rhagfyr.

 

Caiff y comisiwn ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol, Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Gyda diolch i Redbrck.

 

Gwyliwch yr isod am esboniad pennawd BSL o Not Sorry.

 

Credit: Stephanie Back. Photography by Alistair Daly.

Credit: Stephanie Back. Photography by Alistair Daly.

Credit: Stephanie Back. Photography by Alistair Daly.

 

 

 

Stephanie Back yw Rheolwr Mynediad, Cynhwysiant a Chyfranogiad Theatr Taking Flight, lle mae’n arwain y theatr ieuenctid gyntaf yng Nghymru – a’r unig un o’i bath – ar gyfer pobl ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw. Ers iddi raddio ym Mhrifysgol Reading yn 2016, mae hi hefyd wedi gweithio fel actores gyda Taking Flight (Juliet yn Romeo and Juliet, Miranda yn The Tempest, Cherish yn Honour and Cherish a draig yn You’ve Got Dragons), a hefyd mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau fel National Theatre Wales, Mousetrap Theatre, Theatr Illumine, PAD Productions a Handprint Theatre. Ymhellach, ers dechrau 2017 mae Stephanie wedi bod yn gweithio ar “Fow” (“I Said I Love You” gynt) ochr yn ochr ag Elise Davison ac Alun Saunders. Yn ychwanegol at hyn i gyd, mae Stephanie hefyd yn arwain hyfforddiant ymwybyddiaeth o Fyddardod a gweithdai theatr Hygyrch gydag Elise Davison. Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg. 

 

 

Mae Taking Flight yn creu cynyrchiadau theatr beiddgar ac anarferol gyda pherfformwyr Byddar, perfformwyr anabl a pherfformwyr nad ydynt yn anabl. Mae’r cwmni’n teithio trwy Gymru a thu hwnt, ac yn aml yn perfformio mewn mannau diarffordd yn ogystal ag mewn theatrau traddodiadol. Ochr yn ochr â’i waith teithiol, mae’r cwmni’n ymfalchïo mewn meithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau anabl, ar y llwyfan a hefyd y tu ôl i’r llenni. Mae’n cyflawni hyn trwy gynnal cynlluniau mentora a chyrsiau hyfforddi proffesiynol cynhwysol ar gyfer pobl sy’n ystyried eu hunain yn Fyddar neu’n anabl ac sy’n awyddus i gychwyn gyrfa yn y theatr, neu sydd eisiau meithrin eu sgiliau a magu hyder. Yn 2019, sefydlodd Taking Flight yr unig Theatr Ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc byddar a thrwm eu clyw.