Perfformiad Cloi: Rhodri Davies
Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ
23 Chwefror 2024
12:30 yp - 2:00 yp
Am dim
Galw heibio
I nodi diwedd arddangosfa Artes Mundi 10, rydym Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno perfformiad byw newydd gan yr artist Rhodri Davies mewn ymateb i waith Nguyễn Trinh Thi, And They Die a Natural Death.
Mae Rhodri Davies wedi ymgolli ym myd byrfyfyr, arbrofi cerddorol, cyfansoddi a pherfformiad clasurol cyfoes. Mae’n canu telyn, telyn drydan, electroneg fyw, ac yn adeiladu gosodiadau gwynt, dŵr, iâ, iâ sych a thelyn dân ac mae wedi rhyddhau chwe albwm unigol. Mae ei grwpiau rheolaidd yn cynnwys HEN OGLEDD, Cranc, Common Objects a deuawd gyda John Butcher. Mae wedi gweithio gyda’r artistiaid canlynol: David Sylvian, Jenny Hval, Derek Bailey, Sofia Jernberg, Lina Lapelyte, Pat Thomas, Simon H Fell a Will Gaines. Mae’n trefnu cyfres cyngherddau NAWR ar y cyd yn Abertawe.