Sesiynau Galw Heibio i'r Teulu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NP
14 & 15 Chwefror 2024
11:00 yb - 2:00 yp
Am Ddim
Plant oed 5-10
Galw heibio
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror byddwn yn gwahodd teuluoedd i ddathlu gwaith Rushdi Anwar, Alia Farid a Mounira Al Solh.
Dewch draw i greu eich gwaith celf eich hun wedi’i ysbrydoli gan waith yr artistiaid. Dyma gyfle i archwilio cerflunwaith, tecstilau a thechnegau lluniadu.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer plant 5-10 oed, ond mae croeso i bawb ac rydyn ni’n eich annog i feddwl am ‘deulu’ yn yr ystyr ehangaf – dewch â’ch teulu, eich ffrindiau, eich cymdogion ac unrhyw un rydych chi’n meddwl a fyddai’n mwynhau arbrofi a chwarae gyda deunyddiau.
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 2pm. Does dim angen archebu lle. Rhaid i rieni neu warcheidwaid fod gyda phlant dan 16 oed drwy’r amser.
Gwisgwch ddillad nad ydych chi’n poeni gormod am eu baeddu.