Sesiynau Stiwdio Artes Mundi 9

Sesiynau Stiwdio Artes Mundi 9

Dydd cau: Dydd Gwener 28 Mai am 5pm. 

Ar-lein

Dydd cau: Dydd Gwener 28 Mai am 5pm. 

Am ddim

Cliciwch i Wneud Cais

Mae Artes Mundi wedi uno â Warp a g39 i greu cyfres o sesiynau un-i-un am ddim gydag Artistiaid a Churaduron sydd wedi cyfrannu at Raglen Artes Mundi 9.

 

Gall artistiaid o Gymru ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru gyflwyno datganiad o ddiddordeb i gael sesiwn un-i-un 45 munud gydag un o’n cyfranwyr ar Zoom

Credit: Francis McKee. Image Courtesy of Francis McKee.

Credit: Dr Gina Athena Ulysse

Credit: Prabhakar Pachpute. Credit: Sachin Bonde

Credit: Beatriz Santiago Muñoz

Credit: Meiro Koizumi. Photo: Sergey Illin

Credit: Director of Artes Mundi, Nigel Prince. Credit: Ellie Nixon

Credit: Zasha Colah. Photograph: Luca Cerizza

Cyfranwyr 

 

Francis McKee  

Dr Gina Athena Ulysse  

Prabhakar Pachpute 

Beatriz Santiago Munoz 

Meiro Koizumi  

Nigel Prince 

Zasha Colah

 

Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ymarfer artistig, gallwch ofyn am gyngor ar sut i ddatblygu’ch gwaith neu adborth ar rywbeth sydd eisoes wedi’i wneud. Gall sesiynau gynnig cyfle i brofi syniadau. Rydym yn ceisio paru artistiaid bob amser fel y gallwch gael y gorau o’u sesiwn, ac i wneud hynny rydym yn gofyn i chi anfon mwy o wybodaeth atom.

 

Mae llefydd yn brin yn anffodus a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28 Mai am 5pm

 

I wneud cais am slot, cyflwynwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb drwy glicio yma. Cofiwch ddweud wrthym â phwy yr hoffech siarad ac anfon disgrifiad byr o ymarfer, datganiad am y prif beth yr hoffech ei gael o’r sesiwn ac enghreifftiau o waith neu ddolenni iddo. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod a ydych wedi’ch paru ag artist erbyn dydd Mercher 2 Mehefin.

 

Mae Artes Mundi yn ymrwymedig i sicrhau cyfle cyfartal. Llenwch y ffurflen cyfle cyfartal hon i’n helpu i fonitro tegwch ein harferion gwaith cyfredol. Bydd yr wybodaeth yma’n ddienw ac yn cael ei chynnwys ochr yn ochr â’r holl ymatebion eraill. Gellir ei defnyddio wrth adrodd wrth gyllidwyr a rhanddeiliaid eraill.

 

Os allwn ni wneud unrhyw beth i’ch helpu chi fanteisio ar sesiwn a chael y gorau o’r sgwrs rhowch wybod i ni. Rhai o’r pethau y gallwn eu cynnig yw: cymorth gyda chostau gofal plant, adrodd capsiynau byw, dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain neu ddehongli mewn iaith arall

 

Francis McKee

Mae Francis McKee yn awdur a churadur sy’n gweithio yn Glasgow. Rhwng 2005 a 2008 bu’n Gyfarwyddwr Glasgow International, ac ers 2006 bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow. Mae’n Ddarlithydd ac yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gelf Glasgow, yn gweithio ar ddatblygu ideolegau ffynhonnell agored, ac mae wedi ysgrifennu ar waith artistiaid fel Christine Borland, Ross Sinclair, Douglas Gordon, Simon Starling, Matthew Barney, Pipilotti Rist, Willie Doherty, Kathy Prendergast, Abraham Cruzvillegas, ac Ester Krumbachova. Ei lyfr diweddaraf yw Even the Dead Rise Up (Book Works, 2017).

 

Dr Gina Athena Ulysse

Mae Dr Gina Athena Ulysse yn anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd Haitiaidd-Americanaidd. Mae’n fethodolegydd rhyngddisgyblaethol, ac mae ei chwestiynau ymchwil a’i hymarfer celf yn ymgysylltu â geowleidyddiaeth, portreadau hanesyddol, a beunyddioldeb amodau’r boblogaeth wasgaredig Ddu. Mae ei llyfr diwethaf, Because When God Is Too Busy: Haiti, me & THE WORLD (2017), yn gasgliad o ffotograffau, barddoniaeth a thestunau perfformio. Mae’n athro llawn Astudiaethau Ffeministaidd yn UC Santa Cruz, Califfornia.  ginaathenaulysse.com

 

Prabhakar Pachpute

Mae Prabhakar Pachpute yn byw ac yn gweithio yn Pune, India. Mae Pachpute yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau gan gynnwys lluniadu, golau, animeiddiadau stop-symud, sain a ffurfiau cerfluniol. Mae gan ei ddefnydd o siarcol gysylltiad uniongyrchol â’i bwnc a’i wreiddiau teuluol, pyllau glo a glowyr. Yn aml, mae Pachpute yn creu amgylcheddau ymgollol a dramatig yn ei waith sy’n benodol i safle, gan ddefnyddio portreadaeth a thirwedd gyda throsiadau swrrealaidd i fynd i’r afael yn feirniadol â materion llafur mwyngloddio ac effeithiau mwyngloddio ar y dirwedd naturiol a dynol. Derbyniodd Pachpute ei radd baglor mewn celfyddydau cain ym maes cerflunio o Brifysgol Indira Kala Sangit, Khairagarh (Chhattisgarh, 2009) a’i MFA o Brifysgol Maharaja Sayajirao of Baroda (Gujrat, 2011). Mae wedi arddangos yn helaeth gyda sioeau unigol yn y Clark House Initiative, Mumbai (2012); Experimenter, Kolkata (2013&2017); National Gallery of Modern Art, Mumbai (2016); AsiloVia Porpora, Milan (2018); a’r Glasgow School of Art (2019). Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp hefyd yn Van Abbemuseum, Eindhoven (2013); Kadist Art Foundation, Paris (2013); IFA, Stuttgart a Berlin (2013); DRAF, Llundain(2014); MACBA, Barcelona (2015); Parasite, Hong Kong (2017); Asia Cultural Centre, Gwangju(2017); STUK, Leuven(2018); AV Festival, Newcastle (2018); ac roedd yn rhan o’r 31ain São Paulo Biennial (2014); y 5ed Fukuoka Asian Art Triennial (2014); y 14eg Istanbul Biennial (2015); yr 8fed Asia Pacific Triennial, Brisbane(2015); a’r Dhaka Art Summit (2018); yr 2il Yinchuan Biennale (2018) a’r 4ydd Kochi-Muziris Biennale (2018). Cynrychiolir Prabhakar Pachpute gan Experimenter, Kolkata.

 

Beatriz Santiago Muñoz

Mae Beatriz Santiago Muñoz yn artist y mae ei gwaith delwedd symudol estynedig yn cordeddu blith draphlith â theatr Boalaidd, ethnograffeg arbrofol a syniadaeth ffeministaidd. Mae’n tueddu i weithio gyda rhai nad ydyn nhw’n actorion, ac yn ymgorffori gwaith byrfyfyr yn ei phroses. Mae ei gwaith diweddar ar anymwybyddiaeth synhwyraidd symudiadau gwrth-wladychol, ac ar waith barddonol bob dydd yn y Caribî. Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Gosila, Der Tank, Basel; Rodarán Cabezas yn Espacio Odeon, That which identifies them, like the eye of the cyclops en Wester Front, A Universe of Fragile Mirrors, PAMM, Miami; Song Strategy Sign, New Museum; Mae arddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys: Whitney Biennial 2017, NYC; Prospect 4, New Orleans; 8th Contour Biennale, Mechelen; Ce qui ne sert pas s’oublie, CAPC-Bordeaux. Mae hi wedi derbyn Gwobr Gelfyddydau Herb Alpert, hi oedd Cymrawd Ford UDA 2016, a derbyniodd grant artist gweledol Creative Capital 2015 ar gyfer ffilm sydd ar y gweill o’r enw Verano de Mujeres.

 

Meiro Koizumi

Mae Meiro Koizumi (1976, Gunma, Japan) yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, sy’n faes o bwysigrwydd penodol i’w ddiwylliant Japaneaidd brodorol. Mae ei fideos yn seiliedig ar berfformiadau a senarios adeiledig yn aml. Mae ei berfformiadau’n canolbwyntio ac yn ehangu ar yr eiliad pan fydd sefyllfa’n mynd y tu hwnt i reolaeth, yn troi’n chwithig neu’n torri rheolau cymdeithasol. Mynychodd Meiro Koizumi yr International Christian University, Tokyo; Chelsea College of Art and Design, Llundain yn ogystal â’r Rijksakademie van Beeldende Kunsten, Amsterdam. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Annet Gelink Gallery (2017), DeHallen, Haarlem (2016), Arts Maebashi, Maebashi (2015), Kadist Art Foundation, Paris (2014), Museum of Modern Art, Efrog Newydd (2013), Centro de Arte de Caja de Burgos (CAB), Burgos (2012), Art Space,Sydney (2011) a’r Mori Art Museum, Tokyo (2009). Cymerodd ran mewn nifer o sioeau grŵp fel 5ed Biennale Rhyngwladol Experimenta, Melbourne (2014), 8fed Shenzhen Sculpture Biennale, Shenzen (2014), Tokyo Opera City Art Gallery, Tokyo (2014), MSGSU Tophane-i Amire Culture and Arts Center, Istanbul (2013), Pinchuk Art Centre, Kiev (2012), Hara Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Biennial Lerpwl, Lerpwl (2010), Media City, Seoul (2010),Shanghai MOCA, Shanghai (2008) a llawer mwy. Mae ei waith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau’r Museum of Modern Art, Efrog Newydd, Kadist Art Foundation, Paris a’r Stedelijk Museum, Amsterdam.

 

Nigel Prince

Mae Nigel Prince yn gweithion rhyngwladol fel curadur ac ysgolhaig ers dros 25 mlynedd. Cyn ymuno ag Artes Mundi, bu Nigel yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol yr Oriel Celfyddyd Gyfoes yn Vancouver rhwng 2011 a 2019. Mae wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau celf rhyngwladol uchel eu bri megis Tate Lerpwl ac Oriel Ikon yn Birmingham (2004 – 2010) ac yn ystod ei yrfa mae wedi curadu sawl arddangosfa nodedig gydag artistiaid cyfoes rhyngwladol blaenllaw fel Olafur Eliasson, Carmen Herrera, Ryan Gander, Andrea Zittel a Donald Judd. Yn y DU, cynghorydd ar y celfyddydau oedd Nigel i Gyngor Celfyddydau Lloegr (1993-98) ac yn Gadeirydd ir gynhadledd New Thinking in Public Art: Habitat, Community, Environment yn Tate Britain yn 2004. 

 

Zasha Colah

Cyd-sefydlodd Zasha Colah gydweithrediaeth guradurol ac undeb artistiaid Clark House Initiative (Mumbai, 2010). Mae’n addysgu yn adran y Celfyddydau Gweledol ac Astudiaethau Curadurol, Nuova Accademia di Belle Arti, Milan, ers 2018. Roedd hi’n rhan o’r tîm curadurol dan arweiniad Marco Scotini yn ail Biennale Yinchuan (2018). Cyd-guradodd drydydd Pune Biennale (2017) gyda Luca Cerizza a Prabhakar Pachpute (National Gallery of Modern Art, Mumbai, 2016). Ysgrifennodd fonograff rhannol ffuglennol ar Prabhakar Pachpute (Experimenter Books, 2019). Teitl ei gwaith ymchwil doethurol oedd Histories of Art Under Militarisation. Burma/Myanmar 1982-2016 (Prifysgol La Sapienza, 2020), ac ar hyn o bryd mae’n gymrawd ymchwil yn 221A (Vancouver, 2020).

 

 

g39  

Galeri a chymuned greadigol ar gyfer celf weledol yng Nghymru sy’n cael ei redeg gan artistiaid yw g39, sy’n bont rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd. Canolbwynt gweithgareddau g39 yw ei berthynas â’r artistiaid. O arddangosfeydd i leoliadau gwaith i gynulliadau anffurfiol, cyflwyno cyfoedion neu wireddu’r arddangosfeydd unigol mwyaf uchelgeisiol – ein nod, ar draws y sbectrwm hwn o berthnasau ag eraill, yw annog pob person sydd ag uchelgais i ddilyn ymarfer celf weledol.

 

Warp 

Warp yn cefnogi pobl yng Nghymru sy’n dymuno dilyn ymarfer artistig gyda gweithgarwch yn amrywio o feirniadaeth cymheiriaid, mentora a datblygiad proffesiynol, sgyrsiau gan artistiaid/curaduron, gweithdai a seminarau i deithiau a digwyddiadau cymdeithasol. Mae Warp yn rhannu gwybodaeth ac yn cynnig adnodd hefyd. Trwy’r dulliau hyn mae Warp yn darparu rhwydwaith hanfodol ar gyfer cymuned yng Nghymru a thu hwnt.