Taith Arddangosfa BSL: Taloi Havini

Taith Arddangosfa BSL: Taloi Havini

Mostyn
12 Stryd Vaughan
Llandudno
LL30 1AB

24 Chwefror 2024
1:00 yp – 2:30 yp
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Mae Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydwaith Ein Byd Gweledol yn Abertawe i gyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o gwmpas cyflwyniad Artes Mundi 10 yn Oriel Davies, dan arweiniad tywysydd i artistiaid Byddar sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol.

 

Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei arddangos, ei gyd-destun yn yr arddangosfa AM10 ehangach a gwybodaeth am arferion a chefndir yr Artist. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.

 

Mae lleoedd yn brin a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.

 

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org

 

Ganwyd Taloi Havini (g 1981, Llwyth Nakas, pobl Hakö) yn Arawa, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville, ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Brisbane, Awstralia. Mae ei hymarfer ymchwil yn seiliedig ar ei chysylltiadau ar ochr ei mam â’i gwlad a chymunedau yn Bougainville. Amlygir hyn mewn gwaith a grëwyd gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain a fideo, cerfluniau, gosodiadau trochi a phrint.

YouTube player