Taith Arddangosiad BSL: Carolina Caycedo

Taith Arddangosiad BSL: Carolina Caycedo

Oriel Davies
Y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 2NZ

20 Chwefror 2024
2:00 yp – 3:30 yp
Am ddim, archebu yn hanfodol

I archebu:
Ebost: desk@orieldavies.org
Galw: 01686 625041

Mae Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydwaith Ein Byd Gweledol yn Abertawe i gyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o gwmpas cyflwyniad Artes Mundi 10 yn Oriel Davies, dan arweiniad tywysydd i artistiaid Byddar sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol, ac fe’i cefnogir gan ddehonglydd BSL.

 

Yn cynnwys darnau synhwyraidd a chyffyrddol.

 

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org

 

Mae Carolina Caycedo (g 1978, Llundain) yn artist amlddisgyblaethol o Golombia sy’n byw yn Los Angeles. Mae ei gwaith amlgyfrwng daearyddol anferth yn wrthrychau celf a hefyd yn byrth i drafodaethau ehangach ynglŷn â sut rydym yn trin ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Drwy ei hymarfer stiwdio a gwaith maes gyda chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan seilwaith mawr a phrosiectau echdynnu eraill, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaladwy twf dan gyfalafiaeth a sut y gallem groesawu gwrthsafiad a chefnogaeth. Mae proses a chyfranogi yn ganolog i ymarfer Caycedo, ac mae’n cyfrannu tuag at ail-greu cof amgylcheddol a hanesyddol fel gofod sylfaenol ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Gan ddefnyddio gwybodaeth o epistemolegau Brodorol a ffeministaidd, mae’n wynebu rôl yr olwg drefedigaethol a fu’n preifateiddio a dad-feddiannu tir a dŵr.