Taith Synhwyraidd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Taith Synhwyraidd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

20 Chwefror 2024
6:00 yp - 7:30 yp
Nifer gyfyngedig o leoedd, rhad ac am ddim
Cliciwch yma i archebu

Taith arddangos i oedolion sydd â chyflyrau prosesu synhwyraidd/canfyddiad 

 

Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer oedolion sydd â chyflyrau prosesu synhwyraidd neu ganfyddiad, i roi trosolwg o’r gwaith yn arddangosfa Artes Mundi 10. Mae hyn yn cynnwys pobl niwrowahanol a phobl sy’n byw gyda dementia. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno gan Gynhyrchydd Ymgysylltu hyfforddedig a bydd yn rhoi cyflwyniad i’r gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ei gyd-destun ac ymarfer yr Artist 

 

Ein nod yw darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol gydag addasiadau i lefelau golau a sain yn yr oriel. Bydd teclynnau amddiffyn y clustiau a theganau ffidlan ar gael, ond rydym yn annog ymwelwyr i ddod â’u teganau eu hunain yn ôl yr angen. Rydym hefyd yn cynghori ymwelwyr i ddod â’u sbectol eu hunain gan fod golau yn yr oriel yn gallu bod yn llachar iawn neu’n eithaf tywyll. Bydd y daith yn cynnwys amser a lle ychwanegol i drafod a myfyrio. 

 

Mae lleoedd yn brin a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod. 

 

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org 

 

Cyn eich ymweliad

 

  • Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd yr amgueddfa ar gael yma 

 

  • Mae’r amgueddfa yng nghanol Caerdydd yn y cyfeiriad what3words ///ffasiwn.chwâl.cerbydau

 

  • Mae toiledau hygyrch a thoiledau niwtral o ran rhywedd ar gael.

 

  • Dangosir arddangosfa Artes Mundi mewn pum oriel ar y llawr cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

  • Lawrlwythwch fap o safle Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yma

 

Mae’r nodiadau isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl yn y man arddangos:

 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith 2 a 3 dimensiwn, gan gynnwys darn delwedd symudol a dau ddarn sain gyda chanu a’r gair llafar. Mae mannau’r oriel yn amrywio o fawr ac awyrog i ofod tywyll, llai lle mae’r gwaith ffilm yn cael ei ddangos. Does dim modd newid y lefelau golau, felly y cyngor ydy dod â sbectol gyda chi os bydd eu hangen arnoch chi. Does dim modd addasu’r lefel y sŵn ac mae adleisiau posibl yn y gofod – rydyn ni’n eich cynghori i ddod â theclynnau i amddiffyn y clustiau ond bydd rhai ar gael ar y safle i’w benthyg. Mae rhywfaint o’r cynnwys yn yr arddangosfa yn ymwneud â rhyfel a gall rhai delweddau beri gofid i rai pobl. Mae ystafell ar gael fel man tawel i’w defnyddio yn ystod y daith, gyda chymorth swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl hyfforddedig sydd â phrofiad uniongyrchol o niwrowahaniaeth. Darperir te a choffi ar ddiwedd y daith, ynghyd â dewis o fyrbrydau (gan gynnwys opsiynau heb glwten a chynnyrch llaeth).

 

Dolenni i’r teithiau rhithiol 3-d o amgylch yr oriel: 

https://my.matterport.com/show/?m=S6JbfNPKeiY 

https://my.matterport.com/show/?m=FShi7mPqZuM 

https://my.matterport.com/show/?m=yNy959b8LLb 

https://my.matterport.com/show/?m=8YrYKx7ccH5 

Gwybodaeth am yr artistiaid 

 

Rushdi Anwar  

Artist gweledol, ymchwilydd, actifydd tawel, ymgysylltwr cymunedol, a cheisiwr cyfiawnder cymdeithasol yw Rushdi Anwar. Yn wreiddiol o Halabja, Cwrdistan, mae’n pwyso ar ei brofiadau a’i atgofion personol wrth fyfyrio ar gwestiynau cyfoes dadleoli, hunaniaeth, gwrthdaro a thrawma a ddioddefir dan gyfundrefnau trefedigaethol ac ideolegol. Ar sail ei gefndir fel Cwrd sydd wedi byw trwy drais diweddar y rhanbarth hwn, mae ei waith yn cyfeirio at helyntion geowleidyddol cyfredol a hanesyddol. 

 

Alia Farid 

Ganwyd Alia Farid yn Kuwait ac mae’n byw ac yn gweithio rhwng Dinas Kuwait a Puerto Rico. Mae ei gwaith yn amrywio o ysgrifennu a thynnu lluniau i ffilm, cerflunio, sain a gosodwaith, gan ystyried hanesion trefedigaethol, defodau diwylliannol, adeileddau pŵer a ffiniau, corfforol a diwylliannol, ac yn aml mae’n archwilio hanesion llai adnabyddus sydd wedi’u dileu yn fwriadol. Mae gweithiau Farid yn aml yn cyfuno symbolau o’r gorffennol a’r presennol ac mae ei gwaith cerfluniol yn rhoi sylw penodol i ecsbloetio adnoddau naturiol ac effaith diwydiannau echdynnol ar dir, ecoleg a gwead cymdeithasol de Irac a Kuwait. Mae’n ymateb i’r ymdrechion aflwyddiannus i efelychu systemau gorllewinol trwy brosiectau moderneiddio, a chwestiynau cynrychiolaeth. Yn ei gweithiau fideo mae Farid yn canolbwyntio ar ddynoliaeth pob unigolyn, gan greu cysylltiadau agos rhwng y pwnc a’r gwyliwr sy’n croesi ffiniau cenedlaethol ac ideolegol. Mae ei ffilmiau’n archwilio sut mae pobl, defodau a thraddodiadau yn cysylltu â chymdeithas, gwerthoedd, goresgyn adfyd a sut y gellir mynegi a phrofi gwrthsafiad mewn gwahanol ffyrdd. 

 

Mounira Al Solh 

Arlunydd o Libanus Syria yw Mounira Al Solh, sy’n byw ac yn gweithio yn yr Iseldiroedd, gan greu paentiadau, gweithiau ar bapur, gosodiadau fideo, brodwaith a gweithiau perfformiadol sy’n archwilio ymfudo, cof, trawma a cholled. Mae Al Solh yn dogfennu profiadau’r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd newidiadau gwleidyddol, rhyfel a gormes, gan ganolbwyntio’n benodol ar frwydrau menywod yn y byd Arabaidd. Gan ddilyn trywydd ei threftadaeth ei hun yn aml, mae ei gwaith yn ystyried pwysigrwydd hanesion llafar a chwedleua fel cofnod o brofiad byw, gan gynnwys tafodieithoedd ac ieithoedd sy’n croesi ffiniau rhwng cymunedau ffoaduriaid.