
Teithiau sain-ddisgrifiad ar-lein: Meiro Koizumi
Dydd Mercher 16 Mehefin 2021
12:00pm BST
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i archebu nawr
Ymunwch â Chynhyrchwyr Ymgysylltu Artes Mundi a’r sain-ddisgrifiwr Anne Hornsby ar gyfres o deithiau a sgyrsiau rhyngweithiol o Artes Mundi 9.
Yn y daith hon byddwn yn edrych ar waith Meiro Koizumi.
Mae’r teithiau ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, a bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn fyw ar zoom ac yn para am awr gyda chwarter awr ar gyfer adborth ar y diwedd. Ym mhob adran byddwn yn edrych ar ddetholiad o weithiau celf neu eiliadau gan yr artistiaid ar restr fer Artes Mundi 9, a bydd croeso i’ch syniadau a’ch cwestiynau drwyddi draw.
Rhybudd Cynnwys: Darllenwch yr wybodaeth isod, yn arbennig cyn gwylio ‘Angels of Testimony’ gyda phlant.
Gall y fideo hwn beri gofid gan ei fod yn cynnwys disgrifiadau, ar lafar ac mewn isdeitlau, o brofiadau o drosedddau rhyfel yn cynnwys ymladd, llofruddiaeth a llofruddiaeth dorfol, trais corfforol a rhywiol, treisio, hunanladdiad, llosgach, sarhad hiliol, herwgipio a phoenydio.
Bydd sain-ddisgrifiadau ar gael i wrando arnynt ar ôl y digwyddiadau.
Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.
Disgrifiad o’r ddelwedd: Meiro Koizumi. The Angels of Testimony, 2019 (detail). Three-channel video installation, colour, sound, archival materials. Commissioned by the Sharjah Art Foundation. Courtesy the artist, Annet Gelink Gallery, Amsterdam and MUJIN-To Production, Tokyo. Installation view: Artes Mundi 9. Photography: Stuart Whipps