Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

Wed'i ymuno gan Dr Gina Athena Ulysse, Francis McKee a Yvonne Connikie

21 Ebrill 2021
7:00pm BST
Ar-lein

Am ddim

Cliciwch yma i archebu nawr

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Beatriz Santiago Muñoz.

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â rhai curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

Mae’r trydydd o chwe digwyddiad yng Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Beatriz Santiago Muñoz mewn sgwrs â’r anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd, Dr Gina Athena Ulysse; Francis McKee, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow; a churadur, gwneuthurwr ffilmiau, a Sylfaenydd Black Film Festival Wales, Yvonne Connikie. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau.

Credit: Beatriz Santiago Muñoz

Credit:

Credit: Francis McKee. Image courtesy of Francis McKee.

Credit: Yvonne Connikie

Mae Beatriz Santiago Muñoz yn artist y mae ei gwaith delwedd symudol estynedig yn cordeddu blith draphlith â theatr Boalaidd, ethnograffeg arbrofol a syniadaeth ffeministaidd. Mae’n tueddu i weithio gyda rhai nad ydyn nhw’n actorion, ac yn ymgorffori gwaith byrfyfyr yn ei phroses. Mae ei gwaith diweddar ar anymwybyddiaeth synhwyraidd symudiadau gwrth-wladychol, ac ar waith barddonol bob dydd yn y Caribî. Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Gosila, Der Tank, Basel; Rodarán Cabezas yn Espacio Odeon, That which identifies them, like the eye of the cyclops en Wester Front, A Universe of Fragile Mirrors, PAMM, Miami; Song Strategy Sign, New Museum; Mae arddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys: Whitney Biennial 2017, NYC; Prospect 4, New Orleans; 8th Contour Biennale, Mechelen; Ce qui ne sert pas s’oublie, CAPC-Bordeaux. Mae hi wedi derbyn Gwobr Gelfyddydau Herb Alpert, hi oedd Cymrawd Ford UDA 2016, a derbyniodd grant artist gweledol Creative Capital 2015 ar gyfer ffilm sydd ar y gweill o’r enw Verano de Mujeres.

 

Mae Dr Gina Athena Ulysse yn anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd Haitiaidd-Americanaidd. Mae’n fethodolegydd rhyngddisgyblaethol, ac mae ei chwestiynau ymchwil a’i hymarfer celf yn ymgysylltu â geowleidyddiaeth, portreadau hanesyddol, a beunyddioldeb amodau’r boblogaeth wasgaredig Ddu. Mae ei llyfr diwethaf, Because When God Is Too Busy: Haiti, me & THE WORLD (2017), yn gasgliad o ffotograffau, barddoniaeth a thestunau perfformio. Mae’n athro llawn Astudiaethau Ffeministaidd yn UC Santa Cruz, Califfornia.  ginaathenaulysse.com

 

Mae Francis McKee yn awdur a churadur sy’n gweithio yn Glasgow. Rhwng 2005 a 2008 bu’n Gyfarwyddwr Glasgow International, ac ers 2006 bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow. Mae’n Ddarlithydd ac yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gelf Glasgow, yn gweithio ar ddatblygu ideolegau ffynhonnell agored, ac mae wedi ysgrifennu ar waith artistiaid fel Christine Borland, Ross Sinclair, Douglas Gordon, Simon Starling, Matthew Barney, Pipilotti Rist, Willie Doherty, Kathy Prendergast, Abraham Cruzvillegas, ac Ester Krumbachova. Ei lyfr diweddaraf yw Even the Dead Rise Up (Book Works, 2017).

 

Mae Yvonne Connikie yn rhaglennydd, curadur a gwneuthurwr ffilmiau sy’n arbenigo mewn ffilm annibynnol Du. Hi oedd Sylfaenydd Black Film Festival Wales (2000-2008), Aelod Sylfaenydd y New Black Film Collective, a Churadur Cynorthwyol ar gyfer Black London Film Heritage. Mae Connikie yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol De Cymru ac yn archwilio gweithgareddau hamdden pobl Garibïaidd Windrush yn Butetown. Mae’n rhan o’r pwyllgor rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilm Garibïaidd Windrush ac mae’n datblygu ffilm arbrofol wedi’i hysbrydoli gan Windrush gyda’r prosiect ‘Pitch Black’, a grëwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru. Mae’n parhau i weithio gyda Gwneuthurwyr Ffilmiau ac Artistiaid annibynnol y DU drwy ei phlatfform, Cinema Golau.

 

Cyflwynir gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd