Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

Wed'i ymuno gan Marie Hélène Pereira, Elvira Dyangani Ose, Evan Ifekoya a Tina Pasotra

8 Ebrill 2021
20:00 GMT
Ar-lein

Am ddim

Cliciwch yma i archebu nawr

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Dineo Seshee Bopape.

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

Mae’r ail o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Dineo Seshee Bopape mewn sgwrs gyda Marie Hélène Pereira, Curadur a Chyfarwyddwr Rhaglenni yn Raw Material Company, Senegal; Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom Gallery, Llundain; yr artist a’r gweithiwr ynni, Evan Ifekoya; a’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Tina Pasotra. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

Credit: Dineo Seshee Bopape. Photo: Maksym Biousov

Credit: Marie Hélène Pereira

Credit: Elvira Dyangani Ose

Credit: Evan Ifekoya

Ganed Dineo Seshee Bopape ym 1981, ar ddydd Sul. Pe bai’n hanu o Ghana, ei henw fyddai akosua/akos o’i dalfyrru. Yn ystod yr un flwyddyn â’i genedigaeth, efallai fod 22 o gorwyntoedd wedi’u cofnodi ym Môr yr Iwerydd. Digwyddodd y terfysg yn Brixton; mae’r gân “endless love” yn boblogaidd ar y radio; anafwyd dau berson pan ffrwydrodd bom mewn canolfan siopa yn Durban; mae Bobby Sands yn marw; mae MTV yn cael ei lansio; mae’r Boeing 767 yn gwneud ei thaith awyr gyntaf; mae Umkonto We Sizwe yn cyflawni ymosodiadau tanddaearol niferus yn erbyn y wladwriaeth apartheid. Cafwyd daeargryn a laddodd oddeutu 150 o bobl yn Tsieina; cynhelir Cynhadledd Cyrff Anllywodraethol Ryngwladol ar Boblogaethau Brodorol a’r Tir yng Ngenefa. Caiff yr enw ‘rhyngrwyd’ ei grybwyll am y tro cyntaf; etholwyd Hosni Mubarack yn llywydd yr Aifft; mae coup d’etat yn Ghana; mae’r Dywysoges Diana o Brydain yn priodi Charles; mae Bob Marley yn marw; mae De Affrica apartheid yn ymosod ar Angola; mae AIDS yn cael ei adnabod/ei greu/ei enwi; mae Salman Rushdie yn cyhoeddi ei lyfr “Midnight’s Children”; canfyddir gweddillion y Titanic; mae Muhammad Ali yn ymddeol; adnewyddir gorchymyn alltudiaeth Winnie Mandela am 5 mlynedd arall; mae’r baban tiwb prawf cyntaf yn cael ei eni, mae Thomas Sanakara yn reidio beic i’w gyfarfod cabinet cyntaf; mae Machu Pichu yn cael ei ddynodi’n safle treftadaeth; mae ei mam-gu ar ochr ei thad yn marw yn sgil effaith dementia; yn y flwyddyn honno mae miliynau o bobl yn crio dagrau (o bob math), yn siarad geiriau mewn llawer o ieithoedd a biliynau o bobl yn breuddwydio…. parhaodd rhai pethau, trawsnewidiwyd rhai pethau, daeth eraill i ben(?). Mae’n debyg bod poblogaeth ddynol y byd oddeutu 4.529 biliwn… heddiw mae hi (Bopape) yn un ymhlith 7 biliwn – sy’n meddiannu ansoddeiriau lluosog. Efallai fod digwyddiadau cydamserol eraill blwyddyn ei genedigaeth, a’i hoes, yn rhy niferus i’w hadnabod yn llawn….

 

Mae gan Marie Hélène Pereira radd ym maes Rheoli a Chyfraith Busnes Rhyngwladol ac ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio ym myd busnes, symudodd ei diddordeb proffesiynol i faes y celfyddydau a diwylliant. Ar hyn o bryd mae’n Guradur ac yn Gyfarwyddwr Rhaglenni yn RAW Material Company, Senegal, lle mae wedi trefnu arddangosfeydd a rhaglenni cynhwysfawr cysylltiedig gan gynnwys cyfraniad Raw Material Company at “We face forward: Art from West Africa Today”  Whitworth Art Gallery, Manceinion; CI Curatorial Hub yn TEMP, Efrog Newydd; Y 9fed Shanghai Biennial, Shanghai; MARKER Art Dubai (2013). Mae ei diddordebau’n cynnwys gwleidyddiaeth hunaniaeth, a hanes mudo.

 

Elvira Dyangani Ose yw Cyfarwyddwr y Showroom Gallery, Llundain. Cyn hyn, roedd ganddi swyddi curadurol yn Creative Time, sefydliad nid er elw yn Efrog Newydd, Götborg International Biennal for Contemporary art, a Tate Modern (Celf Ryngwladol). Mae’n ddarlithydd mewn diwylliannau gweledol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, ac mae ei gwaith ymchwil curadurol ac academaidd wedi canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng celf fyd-eang, ôl-wladychiaeth ac astudiaethau amgueddfa.

 

Mae Evan Ifekoya yn artist ac yn weithiwr ynni sydd, drwy ymchwiliadau archifol a sonig, yn dyfalu’n helaeth ynghylch duwch. Yn 2018 fe wnaethant sefydlu Black Obsidian Sound System (B.O.S.S.) a gaiff ei redeg ar y cyd a gan QTIBPOC (queer, trans*, intersex, black and people of colour) Maen nhw wedi cyflwyno arddangosfeydd a pherfformiadau ledled Ewrop ac yn Rhyngwladol, yn fwyaf diweddar: Biennial Lerpwl (2021); Gus Fischer Seland Newydd (2020); IDe Appel yr Iseldiroedd (2019); Gasworks Llundain (2018). 

 

Mae Tina Pasotra yn artist a gwneuthurwr ffilmiau amlddisgyblaethol y mae ei hymarfer yn pontio theatr, dawns, ffasiwn, ffilm, gosodiadau a phensaernïaeth – a ysbrydolir gan groestoriadedd a phrofiadau wedi’u byw. Ochr yn ochr â datblygu ei phrosiectau ei hun, mae Pasotra wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel cyfarwyddwr newydd ar gyfer eu perfformiad theatr ymgollol byw ‘The Insatiable, Inflatable Candylion’ a chynorthwyodd y Cyfarwyddwr Artistig Kully Thiari ar ‘Sisters’ – gwaith sydd ar y gweill gan fenywod sy’n artistiaid Prydeinig-Asiaidd ac Indiaidd blaenllaw fel rhan o dymor pwysig o gydweithio artistig i nodi Blwyddyn Diwylliant y DU-India. Mae naratif byr cyntaf Pasotra,‘I Choose’ ar gael ar BBC iPlayer.