Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

Wed'i ymuno gan Zoe Butt, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz a Evie Manning

Dydd Mercher 19 Mai 2021
1:00pm BST
Ar-lein

Am ddim

Cliciwch yma i archebu nawr

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Meiro Koizumi.

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

Mae’r pedwerydd o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Meiro Koizumi mewn sgwrs gyda Zoe Butt, Cyfarwyddwr Artistig y Factory Contemporary Arts Centre, Dinas Ho Chi Minh; y cymdeithasegydd cymharol a’r hanesydd, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz; ac Evie Manning, Cyd-gyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Common Wealth. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

Credit: Meiro Koizumi. Photo: Sergey Illin

Credit: Abu-Bakr Madden Al Shabazz

Credit: Evie Manning

Credit: Zoe Butt

Mae Meiro Koizumi (1976, Gunma, Japan) yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, sy’n faes o bwysigrwydd penodol i’w ddiwylliant Japaneaidd brodorol. Mae ei fideos yn seiliedig ar berfformiadau a senarios adeiledig yn aml. Mae ei berfformiadau’n canolbwyntio ac yn ehangu ar yr eiliad pan fydd sefyllfa’n mynd y tu hwnt i reolaeth, yn troi’n chwithig neu’n torri rheolau cymdeithasol. Mynychodd Meiro Koizumi yr International Christian University, Tokyo; Chelsea College of Art and Design, Llundain yn ogystal â’r Rijksakademie van Beeldende Kunsten, Amsterdam. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Annet Gelink Gallery (2017), DeHallen, Haarlem (2016), Arts Maebashi, Maebashi (2015), Kadist Art Foundation, Paris (2014), Museum of Modern Art, Efrog Newydd (2013), Centro de Arte de Caja de Burgos (CAB), Burgos (2012), Art Space,Sydney (2011) a’r Mori Art Museum, Tokyo (2009). Cymerodd ran mewn nifer o sioeau grŵp fel 5ed Biennale Rhyngwladol Experimenta, Melbourne (2014), 8fed Shenzhen Sculpture Biennale, Shenzen (2014), Tokyo Opera City Art Gallery, Tokyo (2014), MSGSU Tophane-i Amire Culture and Arts Center, Istanbul (2013), Pinchuk Art Centre, Kiev (2012), Hara Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Biennial Lerpwl, Lerpwl (2010), Media City, Seoul (2010),Shanghai MOCA, Shanghai (2008) a llawer mwy. Mae ei waith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau’r Museum of Modern Art, Efrog Newydd, Kadist Art Foundation, Paris a’r Stedelijk Museum, Amsterdam.

 

Mae Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn Ymgynghorydd Addysg, Cymdeithasegydd Cymharol a Hanesydd Byd yn y profiad Du ac Affricanaidd o’r cyfnod cynhanesyddol i’r cyfoes. Mae wedi cynnal rhaglen Astudiaethau Hanes Pobl Dduon lwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd ers naw mlynedd ac mae bellach yn Uwch Gymrawd Gwadd ar gyfer Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd ym maes Hil ac Addysg. Mae wedi gweithio gyda sawl sefydliad diwylliannol dros y 10 mlynedd diwethaf megis: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gentle Radical, Peak Cymru, a What’s Next, ym meysydd amrywiaeth ddiwylliannol gan ganolbwyntio’n arbennig ar Wladychu, Llenyddiaeth Ddu, Democratiaeth Ddiwylliannol, Ymerodraeth a Chymru Ddiwydiannol a’i chysylltiad â’r Caribî a Gogledd America yn ystod caethwasiaeth.

 

Mae Evie Manning yn Gyd-gyfarwyddwr Artistig Common Wealth, cwmni theatr arobryn sy’n creu digwyddiadau theatr sy’n benodol i safle sy’n cwmpasu sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol a gwaith gair am air. Lleolir Common Wealth yn Bradford a Chaerdydd ac maen nhw’n teithio gyda’u cynyrchiadau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Fel cyfarwyddwr Common Wealth, mae ei gwaith yn cynnwys: The Deal Versus The People (West Yorkshire Playhouse), No Guts, No Heart, No Glory, (Gwobr Gyntaf Scotsman Fringe / Live From TVC gyda BBC4), ac Our Glass House (Gwobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol). Fel gweithiwr llawrydd, mae Evie wedi cydweithio a gwneud gwaith gyda’r Royal Exchange, Battersea Arts Centre, Freedom Studios, Tamasha, Chris Goode and Company, Transform Festival a’r Southbank Centre. Hi oedd derbynnydd Cymrodoriaeth Celfyddydau Perfformio’r BBC yn 2015.

 

Mae Zoe Butt yn guradur ac awdur sydd wedi’i lleoli yn Fietnam. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Artistig y Factory Contemporary Arts Centre, Ho Chi Minh City, gofod celfyddyd gyfoes cyntaf Fietnam. Mae ei gwaith curadurol yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau artistig sy’n meddwl yn feirniadol ac yn ymwybodol yn hanesyddol, gan feithrin deialog ymysg gwledydd hanner deheuol y byd. Mae ei phrosiectau curadurol yn cynnwys llwyfannau deialog rhyngddisgyblaethol megis Conscious Realities (2013-2016); yr arddangosfa ar-lein Embedded South(s) (2016); ac arddangosfeydd grŵp o artistiaid Fietnamaidd a rhyngwladol mewn gwahanol leoliadau rhyngwladol. Mae Zoe yn aelod o’r Cyngor Celf Asiaidd ar gyfer y Solomon R. Guggenheim Museum yn Efrog Newydd, ac yn 2015 cafodd ei henwi’n Arweinydd Byd-eang Ifanc Fforwm Economaidd y Byd.

Cyflwynir gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd