Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

Wed'i ymuno gan Zasha Colah, Siân Williams a Dr Radhika Mohanram

Dydd Mercher 26 Mai 2021
7:00pm BST
Ar-lein

Am ddim

Cliciwch yma i archebu nawr

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Prabhakar Pachpute.

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

Mae’r olaf o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Prabhakar Pachpute mewn sgwrs gyda’r curadur a’r darlithydd Zasha Colah; Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac Dr Radhika Mohanram, Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

Credit: Credit: Prabhakar Pachpute. Photo (C) Sachin Bonde

Credit: Zasha Colah. Photograph: Luca Cerizza

Credit: Sian Williams

Mae Prabhakar Pachpute yn byw ac yn gweithio yn Pune, India. Mae Pachpute yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau gan gynnwys lluniadu, golau, animeiddiadau stop-symud, sain a ffurfiau cerfluniol. Mae gan ei ddefnydd o siarcol gysylltiad uniongyrchol â’i bwnc a’i wreiddiau teuluol, pyllau glo a glowyr. Yn aml, mae Pachpute yn creu amgylcheddau ymgollol a dramatig yn ei waith sy’n benodol i safle, gan ddefnyddio portreadaeth a thirwedd gyda throsiadau swrrealaidd i fynd i’r afael yn feirniadol â materion llafur mwyngloddio ac effeithiau mwyngloddio ar y dirwedd naturiol a dynol. Derbyniodd Pachpute ei radd baglor mewn celfyddydau cain ym maes cerflunio o Brifysgol Indira Kala Sangit, Khairagarh (Chhattisgarh, 2009) a’i MFA o Brifysgol Maharaja Sayajirao of Baroda (Gujrat, 2011). Mae wedi arddangos yn helaeth gyda sioeau unigol yn y Clark House Initiative, Mumbai (2012); Experimenter, Kolkata (2013&2017); National Gallery of Modern Art, Mumbai (2016); AsiloVia Porpora, Milan (2018); a’r Glasgow School of Art (2019). Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp hefyd yn Van Abbemuseum, Eindhoven (2013); Kadist Art Foundation, Paris (2013); IFA, Stuttgart a Berlin (2013); DRAF, Llundain(2014); MACBA, Barcelona (2015); Parasite, Hong Kong (2017); Asia Cultural Centre, Gwangju(2017); STUK, Leuven(2018); AV Festival, Newcastle (2018); ac roedd yn rhan o’r 31ain São Paulo Biennial (2014); y 5ed Fukuoka Asian Art Triennial (2014); y 14eg Istanbul Biennial (2015); yr 8fed Asia Pacific Triennial, Brisbane(2015); a’r Dhaka Art Summit (2018); yr 2il Yinchuan Biennale (2018) a’r 4ydd Kochi-Muziris Biennale (2018). Cynrychiolir Prabhakar Pachpute gan Experimenter, Kolkata.

Cyd-sefydlodd Zasha Colah gydweithrediaeth guradurol ac undeb artistiaid Clark House Initiative (Mumbai, 2010). Mae’n addysgu yn adran y Celfyddydau Gweledol ac Astudiaethau Curadurol, Nuova Accademia di Belle Arti, Milan, ers 2018. Roedd hi’n rhan o’r tîm curadurol dan arweiniad Marco Scotini yn ail Biennale Yinchuan (2018). Cyd-guradodd drydydd Pune Biennale (2017) gyda Luca Cerizza a Prabhakar Pachpute (National Gallery of Modern Art, Mumbai, 2016). Ysgrifennodd fonograff rhannol ffuglennol ar Prabhakar Pachpute (Experimenter Books, 2019). Teitl ei gwaith ymchwil doethurol oedd Histories of Art Under Militarisation. Burma/Myanmar 1982-2016 (Prifysgol La Sapienza, 2020), ac ar hyn o bryd mae’n gymrawd ymchwil yn 221A (Vancouver, 2020).

Cyflwynir gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd