Ystumiau Elfennol: Tuag at Deimlo Cartref

Ystumiau Elfennol: Tuag at Deimlo Cartref

gan Adéọlá

10 Awst - 10 Medi

Grange Pavilion
am ddim


Cliciwch yma i gael mynediad at ddisgrifiad sain o'r gwaith

Cyflwyniad o gomisiwn newydd ‘Adéolá ar gyfer Artes Mundi 9.

 

Bydd comisiwn newydd Adéọlá ar gyfer Artes Mundi 9 yn dwyn i gof hanfod y weithred Yemonja/Yemaya/Yemoja. Mae Yemonja’n deillio o ysbrydolrwydd Yoruba ac yn ymddangos yn yr Alltudiaeth Affricanaidd, ac mae’n cyfleu mam y cefnfor, sy’n cynnal ond eto’n gythryblus. Mae Yemonja’n cynnig amddiffyniad i weithwyr dociau, adeiladwyr cychod, pysgotwyr, morwyr, nofwyr, ac eraill sy’n gweithio, yn byw neu’n teithio o amgylch dŵr. Wrth adleisio hanfod Yemonja, gwahoddir gwesteion i fyfyrio ar hanesion alltudion Caerdydd fel rhai sydd â chysylltiad agos â’i dyfrffyrdd.

 

Mae’r gwaith yn cyfrannu at y cysylltiadau radical â dŵr a hunaniaeth alltud sy’n nodwedd o waith artistiaid Artes Mundi 9 sef Firelei Baez, Dineo Seshee Bopape, a Beatriz Santiago Munoz, ac sydd i’w weld yn y rhaglen gyhoeddus drwyddi draw.

 

Mae Adéọlá yn artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Mae’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ei gwaith yn archwilio mynegiadau o hunaniaeth a pherthyn mewn alltudiaeth. Mae gwaith Adéọlá yn ystyried y ffyrdd y gall perfformiadau dilyffethair fel Carnifal, dawnsiau masgiau a defodau lywio dulliau o fynd ati i greu celf. Ar hyn o bryd, hi yw Sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr Laku Neg: menter artistiaid digidol sy’n mynd o nerth i nerth ar gyfer artistiaid yr alltudiaeth Affricanaidd, sy’n hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth y boblogaeth wasgaredig Affricanaidd drwy gof, athroniaeth, perfformiad ac adrodd straeon, fel ffocws allweddol ar gyfer agenda gwneud iawn. Mae hi’n ddarlithydd sy’n cael ei thalu fesul awr ym Mhrifysgol De Cymru hefyd.