Paul Eastwood

Artist Gweledol

Credit: Artist Paul Eastwood at exhibition Temporary Atlas at Mostyn Gallery in Llandudno North Wales. Photo - Jason Roberts and Mostyn Gallery

Mae Paul Eastwood yn artist gweledol Cymreig sy’n trin celf fel ffordd o adrodd storïau drwy ddeunyddiau. Mae ei waith yn creu dyfodol a hanes dychmygol i archwilio sut mae gofodau, arteffactau a’r cof yn mynegi hunaniaethau. Mae iaith – boed hi’n fyrhoedlog neu wedi’i hargraffu, yn naturiol neu wedi’i dyfeisio, yn brif iaith neu’n iaith leiafrifol – yn wrthrych ac yn gyfrwng parhaus yn ei ymarfer.  Mae ei waith yn cynnwys fideo, gosodwaith, serameg, tecstilau, darluniau a phrintiau.

 

Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Iâl, Wrecsam (2003-4), Ysgol Gelf Wimbledon, Llundain (2004-7), ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol, Llundain (2011-14). Ers iddo ddychwelyd i Gymru mae wedi ennill Gwobr Gelf agoriadol NOVA, Cymru (2017), ac mae wedi cyfranogi mewn llu o arddangosfeydd ar draws Cymru, Lloegr ac Ewrop. Ymysg y rhain y mae ei sioe unigol yn Oriel Chapter, Caerdydd (2019) ac, eleni’n unig, sioeau grŵp yn Nhŷ Pawb, Wrecsam, ac yn Oriel Mostyn, Llandudno. Yn 2020, treuliodd 3 mis ar gyfnod preswyl fel Cymrawd Cymru Greadigol yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain.