Peidiwch â Chyffwrdd â Fy Ngwallt

gan Gabin Kongolo

Peidiwch â chyffwrdd â fy ngwallt, meddai hi.

Mi gewch chi edrych a syllu.

Ond peidiwch

â chyffwrdd â fy ngwallt.

Dyw e ddim am ddim, meddai hi.

 

Mae gwragedd duon yn rhoddi sylw a serch

drwy gribau a rhesi ŷd.

Mae Neiniau a Mamau

Modrybedd a Merched,

yn anrhegu â dwylo rhadlon.

 

Fe ddywed cymdeithas wrtha i fel arall,

Ei fod e wedi cael ei sortio’n barod.

Yn y gwaith ac yn yr ysgol,

Dyna le maen nhw’n gormesu orau.

 

‘Shgwl – ydych chi wedi gweld y dyn

sy’n gwneud y rheolau,

a’r gwallt sy’ dag e?

Os ’weda i rywbeth… ’sen i ddim yn meiddio ei ailadrodd.

Ond ie, peidiwch â chyffwrdd â fy ngwallt.

 

Ond pan fydda i’n troi i wynebu fy hun

mae fy nghwrls yn troi a throelli.

Wedi’u rhyddhau i ymledu

A siarad y tu hwnt i unrhyw iaith.

 

Wedyn, ga i gip arna fi fy hun yn y drych

a dw i’n gweld harddwch.

Dw i’n gweld gwallt.

Dw i’n ’ngweld i.

Dw i’n ein gweld ni.

 

Edefyn yw fy ngwallt sy’n plethu’r

gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Edefyn o falchder Du.

Llawenydd Du.

Harmonïau Du.

 


Actor / bardd o Gaerdydd yw Gabin Kongolo. Yn ddiweddar mae wedi gwneud dwy gerdd sinema, y gyntaf a gomisiynwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer eu Lates: Pitch Black a hefyd gyda’r SSAP ar gyfer eu comisiwn Days Ahead. Ar hyn o bryd mae Gabin yn Gynhyrchydd Ymgysylltu gyda ni yma yn Artes Mundi.