Phoebe Davies

Artist

Credit: Phoebe Davies

Mae Phoebe yn artist sy’n gweithio ar draws delweddau symudol, perfformio, print a sain. Yn aml mae’n gweithio mewn ymateb i unigolion, cymunedau a lleoliadau, gan gynhyrchu gwaith drwy berfformiad wrth gamera, ysgrifennu rhydd a recordiadau maes. Mae hi fel arfer yn defnyddio’r lens, y corff a’r llais i archwilio cynildebau a thensiynau gwleidyddiaeth bersonol a phrofiadau dynol anianol.

 

Mae ei gwaith yn seiliedig ar ymchwil yn bennaf ac mae dan ddylanwad ymarferwyr a chydweithredwyr agos o amrywiol sectorau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys actifyddion, addysgwyr rhyw, athletwyr, therapyddion chwaraeon, academyddion a ffermwyr organig. Ar hyn o bryd, mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar archwilio natur gorfforol llafur fferm, cwiyrdeb gwledig, a pheryglon beichiogrwydd yng nghyd-destun mytholeg arfordirol Cymreig. Ar hyn o bryd, mae’n Artist Gymrawd yn oriel g39 ac yn hwyluso Fieldwork Studio, sy’n rhaglen datblygu artistiaid a leolir yn Slade Farm Organics ym Mro Morgannwg.

 

Cafodd ei gwaith ei ddangos mewn orielau, mewn gofodau celf, sefydliadau addysg ac ar dir cyhoeddus, gan gynnwys Gŵyl y Llais, Canolfan Celfyddydau Chapter (Caerdydd), Tate Modern (Llundain), Site Gallery (Sheffield), Arnolfini (Bryste), y Wellcome Collection (Llundain), Eastside Projects (Birmingham), Wysing Arts Centre (Caergrawnt). Ochr yn ochr â’i hymarfer unigol mae ganddi gydweithrediad parhaus â’r coreograffydd a’r ymarferydd theatr Nandi Bhebhe fel Bhebhe&Davies.

 

@phedavies

STUDIO — <<< (phoebedavies.co.uk)