Gwobr Artes Mundi 2

Yn 2006 dewiswyd Eija-Liisa Ahtila fel enillydd Gwobr Artes Mundi 2.

Credit: OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ers dechrau’r 1990au, mae ffilmiau a ffotograffau Eija-Liisa Ahtila wedi adrodd straeon am berthnasoedd pobl ac mae’n delio â’r emosiynau elfennol sydd wrth wraidd y perthnasoedd hyn: sef cariad, dicter, cenfigen, rhywioldeb a bregusrwydd. Mae ei gosodweithiau sinematig yn archwilio’r strwythurau sy’n berthnasol i adrodd straeon naratif, tra mae ei gweithiau diweddaraf wedi esblygu y tu hwnt i’r personol i ddelio â chwestiynau artistig dyfnach a mwy sylfaenol lle mae’n archwilio’r prosesau sydd ynghlwm wrth ddirnadaeth a phriodoli ystyr, ar brydiau yng ngoleuni themâu dirfodol a diwylliannol mwy, fel gwladychiaeth a ffydd.

 

Mae Ahtila yn disgrifio’i ffilmiau fel dramâu dynol. Gan weithio gydag actorion, mae ei naratifau ffuglennol yn deillio o gyfweliadau a gwaith ymchwil helaeth, yn ogystal ag o’i harsylwadau a’i hatgofion ei hun. Trwy ddangos ei gweithiau ar lawer o sgriniau neu o fewn gosodweithiau cymhleth, gall ei straeon ddatblygu ar yr un pryd mewn amser a lle, gan greu profiad amlhaenog sy’n cynnwys y gwylwyr yn gorfforol.

Ganed Eija-Liisa Ahtila yn Hämeenlinna, y Ffindir ym 1959; mae’n byw ac yn gweithio yn Helsinki.


Please click images to enlarge