Gwobr Artes Mundi 3

Cyhoeddwyd mai N.S. Harsha oedd enillydd Gwobr Artes Mundi 3 yn 200X.

 

Cliciwch yma i gael delwedd 3D o arddangosfa N.S Harsha yn Glynn Vivian.

Credit: Indian artist N.S. Harsha at Artes Mundi 2008, National Museum of Wales, Cardiff, South Wales, UK Picture by Jeff Morgan 36 Barrack Hill, Newport, South Wales, NP20 5FR Tel 07836 501259 email jeff@walespressphoto.com web site www.walespressphoto.com

Mae Harsha yn creu paentiadau, gosodweithiau mawr a phrosiectau cymunedol. Gan weithio yn aml yng nghyd-destun traddodiadau naratif paentiadau bychain India, mae gwaith Harsha yn datgelu sylwadaeth wleidyddol lle mae ffigyrau yn ei fyd cywrain, cyfrwys a chwareus bron yn ddieithriad yn canolbwyntio ar ddigwyddiad, ac mae’r ffigurau hynny wedi’u hanimeiddio gan chwilfrydedd y naill i’r llall, wrth iddynt dynnu sylw at rywbeth sy’n hynod, yn anghydweddol neu’n rhyfedd mewn ffordd ddigri. I’r gwyliwr, yng ngraddfa’r darluniadau ac ym manylder trawiadol cryno iawn y portreadau bychain y mae’r ffraethineb.

 

Yn ei waith diweddar, Cosmic Orphans (2006), sef gosodiad penodol ar gyfer safle teml Sri Krishnan a grëwyd ar gyfer Biennale Singapore, gorchuddiodd Harsha y nenfwd cyfan uwchben y sanctwm mewnol a’r llawr o amgylch tŵr y deml gyda phaentiadau o ffigyrau’n cysgu. Wedi eu paentio’n syth ar y llawr gan ddefnyddio lliwiau fflat, mae’r ffigyrau’n ymddangos mewn llefydd na chânt eu cysylltu â phaentio traddodiadol – eu dadleoliad yn annog y gynulleidfa i ystyried beth a ganiateir ac a waherddir o ran ble y cânt sefyll yn y deml.

Ganed Harsha ym 1969 ac mae’n byw ac yn gweithio ym Mysore, India. Astudiodd baentio yng Nghyfadran y Celfyddydau Cain, Baroda ym 1995. Ers hynny, mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o arddangosfeydd a phrosiectau cydweithredol drwy’r byd, gan gynnwys Biennale Singapore 2006; ail Triennial Celf Asia yn Fukoka 2002 a Triennial Celf Gyfoes Asia-Pacific, Awstralia 1999.


Please click images to enlarge