Gwobr Artes Mundi 6

Cyhoeddwyd mai Theaster Gates oedd enillydd Gwobr Artes Mundi 6. Dewisodd rannu’r £40,000 ymhlith yr artistiaid eraill a oedd ar y rhestr fer.

Credit:

Mae gwaith Theaster Gates yn cynnwys cerfluniau, gosodweithiau, perfformiadau ac ymyriadau trefol sy’n anelu at bontio’r bwlch rhwng celfyddyd a bywyd. Mae’n gweithio fel artist, curadur, cynllunydd trefol a hwylusydd, a nod ei brosiectau yw ysgogi’r arfer o greu cymunedau diwylliannol trwy weithredu fel sbardun ar gyfer ymgysylltu cymunedol a all arwain at newid gwleidyddol a gofodol. Mae Gates wedi disgrifio’i ddull gweithio fel “beirniadu trwy gydweithredu” – yn aml gyda phenseiri, ymchwilwyr a pherfformwyr – er mwyn creu gweithiau sy’n ymestyn y syniad o’r hyn a ystyriwn, fel arfer, yn arferion gweledol.

 

Yn Amgueddfa Gelf Milwaukee yn 2010, fe wnaeth Gates wahodd côr gospel i’r orielau i ganu caneuon a oedd wedi’u haddasu o arysgrifau ar botiau gan y caethwas a’r crochenydd enwog o’r 19eg ganrif, ‘Dave Drake’. Ar gyfer Arddangosfa Eilflwydd Whitney yn 2010, gweddnewidiodd y Cwrt Cerfluniau gyda gosodwaith pensaernïol a gynigiai fan ymgynnull ar gyfer perfformwyr, ymgysylltu cymdeithasol a myfyrio; ac yn The Listening Room yn Amgueddfa Gelf Seattle, trowyd yr oriel yn archif sain a oedd yn cynnwys caban DJ, ynghyd â DJ a chwaraeai ganeuon o’r siop recordiau Dr Wax yn Chicago, sydd wedi cau bellach – lle a arferai fod yn ganolfan ddylanwadol ar gyfer cerddoriaeth y 60au, y 70au a’r 80au, yn enwedig jas, y blws ac R&B.

Ac yntau wedi’i hyfforddi fel cerflunydd a chynllunydd trefol, mae ei weithiau wedi’u gwreiddio mewn cyfrifoldeb cymdeithasol ac mae system gred ddofn yn sail iddynt. Cychwynnwyd datblygiad eiddo tirol Gates, sef ‘Dorchester Project’ 2006, trwy brynu adeiladau gwag ar 69th Avenue a Dorchester Avenue, de Chicago. Ar y cyd â chriw o benseiri a dylunwyr, aeth yr artist yn ei flaen i wagio ac ailwampio’r adeiladau hynny trwy ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau y daeth o hyd iddynt. Mae’r adeiladau bellach yn cynnig canolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol, tai, a llyfrgell llyfrau a recordiadau, a byddant hefyd yn lleoliad ar gyfer ciniawau (achlysuron wedi’u coreograffu o’r enw ‘Plate Convergeces’), cyngherddau a pherfformiadau. Mae Gates yn disgrifio’r prosiect hwn fel “celfyddyd eiddo tirol”, rhan o “system ecolegol gylchol”. Caiff y gwaith o ailwampio’r adeiladau ei ariannu’n gyfan gwbl trwy werthu gweithiau celf a grëwyd gyda’r deunyddiau a adferwyd o’r tu mewn i’r adeiladau.


Please click images to enlarge