Gwobr Artes Mundi 7

Dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi 7 i John Akomfrah yn 200X.

Credit: John Akomfrah with artwork Auto Da Fé

Mae Akomfrah, a aned yn Ghana, yn ffigwr arloesol mewn Sinema Brydeinig Ddu ac yn rhagflaenydd mewn sinematograffi digidol. Ers 30 mlynedd mae’r artist, yr awdur a’r damcaniaethwr wedi bod yn tynnu sylw at alltudiaeth Affricaniaid yn Ewrop trwy greu ffilmiau sy’n archwilio hanes ymylol cymdeithas Ewrop. Caiff ei weithiau eu hystyried ymhlith y rhai mwyaf nodedig ac arloesol yn y Brydain gyfoes.

 

Roedd Akomfrah yn un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective ac mae’n enwog am ffilmiau yn cynnwys The Nine Muses (2010), Speak Like a Child (1998) a The Stuart Hall Project (2013). Yn 2008, cafodd Akomfrah OBE am ei wasanaethau i ddiwydiant ffilm Prydain.

 

Ganed Akomfrah ym 1957, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae wedi cael nifer o arddangosfeydd solo, yn cynnwys Amgueddfa Gelf Seattle, Seattle (2020); Secession, Fienna (2020); BALTIC, Gateshead (2019); ICA Boston (2019); Museu Coleção Berardo, Lisbon (2018); Amgueddfa Newydd, Efrog Newydd (2018); Bildmuseet, Prifysgol Umeå, Umeå (2015, 2018); SFMOMA, San Francisco (2018); Museo Nacional Thyssen-Bornemisza, Madrid (2018); Barbican, Llundain (2017); Oriel Gelf Whitworth, Manceinion (2017); Turner Contemporary, Margate (2016); Nikolaj Kunsthal, Copenhagen (2016); STUK Kunstcentrum, Leuven (2016);  Eli and Edythe Broad Art Museum, Michigan (2014); Tate Britain, Llundain (2013-14), ac wythnos gyfan o ddangos ffilmiau yn MoMA, Efrog Newydd (2011).


Please click images to enlarge