Gwobr Artes Mundi 8

Apichatpong Weerasethakul oedd enillydd Gwobr Artes Mundi 8.

Credit: Apichatpong Weerasethakul

Gan weithio yn y gofod rhwng sinema a chelfyddyd gyfoes, mae Weerasethakul yn creu gosodweithiau a ffilmiau sydd, yn aml, heb ddilyniant ac sy’n cyfleu ymdeimlad cryf o ddatgysylltiad ac arallfydolrwydd. Trwy drin a thrafod amser a golau, mae’n creu pontydd gwan y gall y gwylwyr eu defnyddio i deithio rhwng y gwirioneddol a’r chwedlonol, yr unigol a’r torfol, y materol a’r dychmygol. Mae nifer o’i brosiectau wedi cynnwys yr un actorion, ac mae hyn wedi ei alluogi i gyfleu gwahanol gyfnodau yn eu bywydau a’u profiad o heneiddio. Yn aml, caiff ei ffilmiau eu lleoli mewn coedwigoedd a phentrefi yn ardaloedd gwledig Gwlad Thai. Maent yn troedio tir eithriadol o bersonol, gan wahodd y gwylwyr i fyd goddrychol atgofion, mythau a hiraeth dwys. Trwy ddefnyddio strwythurau naratif anghonfensiynol, a thrwy ymestyn ac adeiladu’r ymdeimlad o amser a chwarae gyda syniadau’n ymwneud â gwirionedd a dilyniant, mae gwaith Weerasethakul yn gorwedd mewn byd o’i wneuthuriad ei hun.

Ganed Weerasethakul yn Bangkok ym 1970, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Chiang Mai, Gwlad Thai. Mae ei arddangosfeydd solo diweddar yn cynnwys: The Serenity of Madness, Amgueddfa Gelf Dinas Oklahoma, Unol Daleithiau America (2018); Luminous Shadows, Canolfan y Celfyddydau Cyfoes (CAC), Vilnius, Lithwania (2018); The Serenity of Madness, Amgueddfa Celfyddydau Cyfoes a Dylunio (MCAD), Manila, Philippines, Ysgol Sefydliad Celf Chicago, Unol Daleithiau America (2017), a Para Site Hong Kong, Tsieina (2016); Tate Film Pioneers: Apichatpong Weerasethakul: Mirages, Tate Modern, Llundain (2016).

 


Please click images to enlarge