Rebecca Jagoe

Artist

Credit: Rebecca Jagoe. Photo - Rosie Taylor

Artist Gwyddelig a leolir yng Nghymru yw Rebecca Jagoe; mae eu hymarfer yn cynnwys perfformiadau, cerfluniaeth, tecstilau, ysgrifennu a darlunio. Mae eu gwaith yn gofiant drwy ddeunyddiau sy’n archwilio sut mae eu profiadau o salwch, awtistiaeth a rhywedd wedi cael eu llywio gan naratifau penodol o ddiwylliant y Gorllewin a siapiwyd yn y cyfnod canoloesol hwyr. Yn benodol, maent yn ceisio dadansoddi’r cysyniad Gorllewinol o beth mae’r bod dynol yn ei olygu, a’i berthynas ag iaith a’r gwrthun.

 

Ar hyn o bryd, mae ar Gymrodoriaeth gan Freelands yn Oriel g39 yng Nghaerdydd, ac mae wrthi’n cynhyrchu perfformiad a gaiff ei ddarlledu ar-lein gyda Site Gallery sy’n seiliedig ar destun canoloesol The Peterborough Lapidary. Yn 2021 dangoswyd eu gwaith yn The Drawing Room yn Llundain, yn Oriel Mostyn yn Llandudno, ac yn EKKM yn Tallinn. Yn 2020, dangoswyd eu gwaith ar-lein gan Wysing (Caergrawnt) a gan La Casa Encendida (Madrid, Sbaen), ac fe wnaethant berfformio yn CCA Goldsmiths (Llundain) cyn y cyfnod clo. Yn ddiweddar, dangoswyd eu gwaith yn Jupiter Woods (Llundain, 2019), yn Oriel De Llundain (2019), ac yn Oriel Whitechapel (Llundain, 2018).  Cyhoeddwyd eu gwaith ysgrifennu gan A Shade Colder, yr Hotel magazine, yr Happy Hypocrite, a chylchgrawn Frieze, ymysg eraill.

 

Rebecca Jagoe