Rhiannon Lowe

Perfformiwr a Sain grëwr

Credit: Rhiannon Lowe performance at Freelands, London. Photo - Jules Lister. Courtesy Freelands Foundation

Perfformiwr a sain grëwr yw Rhiannon Lowe (hi, ganed yn Swydd Efrog, byw yng Nghaerdydd), mae’n aml yn defnyddio gofodau lled-ddomestig, adeiledig i gyflwyno ei pherfformiadau a hongian ei gwaith. Mae hefyd yn ysgrifennu, yn curadu ac yn trefnu arddangosfeydd, ac yn perfformio mewn digwyddiadau sain. Astudiodd yng Nghaerhirfryn, Birmingham a Chaerlŷr.

 

Mae gwaith presennol Rhiannon yn brosiect parhaus dan faner Trans Panic. Mae’n canolbwyntio ar drawsnewid, gan ymgodymu a lleoli ei hun fel artist traws sy’n gweithio â deunydd pwnc traws, gan archwilio ar yr un pryd gryfderau a chyfyngiadau cymuned, a gan anelu ergydion dig at gyfryngau gwrth-draws.  Mae ei hymarfer yn cynnwys arbrofi â delwedd symudol a sain/sŵn, ac mae’n ymgorffori gweithiau testun ehangach, perfformio, dyluniad, gwisg a gosodwaith. Dan y cymeriad ffug/ffugenw Cekca Het, sy’n fand pop/sŵn na fydd byth yn ei gwneud hi, mae Rhiannon hefyd yn coffau ac yn ymdrybaeddu mewn atgofion o dyfu i fyny yn yr 80au, a hithau’n ymgordeddu ym mhleser dryslyd yr hyn sy’n awr yn ail lasoed iddi.

 

Ymysg ei gweithgareddau diweddar y mae: Man, I can’t tell you how relieved I was when you took off your dress, you didn’t have a dick, Aggregate 2022, Freelands Gallery, Llundain; This Is No Time To Plan An Ending, g39, Caerdydd; Careful Networks, Phoenix, Caerlŷr; Cekca Het: Trans Panic, Oriel Mission, Abertawe; Cymrodoriaeth Freelands, g39, Caerdydd; grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

@cekcahet

Cekca Het