AR GAU: Rydym Am Benodi: Hwylusydd Rhwydwaith

Held-Space ar gyfer Artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru

Dyddiad cau: 28 Ebrill 2023
Dyddiadau cyfweld: 5 a 11 Mai 2023 ar amseroedd i’w cadarnhau
Dyddiad cychwyn a ffefrir: 5 Mehefin 2023 (gellir trafod y dyddiad yn y cyfweliad) 

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Rhwydwaith rhan amser (1.5 diwrnod) i weithio â thîm Artes Mundi ac aelodau o Held-Space ar gyfer Artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru (Rhwydwaith Held-Space) i gyd-ddylunio a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm curadu a rhaglen ymroddgar, ac i gefnogi artistiaid, curadwyr, ysgrifenwyr, ac eraill sy’n gweithio yn y sector celfyddydau gweledol yng Nghymru.

 

Manylion am y rôl 

  • Cynigir y swydd hon fel contract 12 mis ar sail lawrydd.

 

  • Mae ffi gynhwysol o £10,400 ar gael am 1.5 diwrnod/11.25 awr yr wythnos a ragwelir i’w dalu mewn rhandaliadau misol drwy anfoneb.

 

  • Rhan amser, gyda chyfartaledd o 1.5 diwrnod (11.25 awr) yr wythnos
  • O gofio natur y rôl, rydym yn rhoi’r oriau hyn i ddangos yr uchafswm a ddisgwylid, gan y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud gwaith achlysurol ar fin nos a phenwythnosau, a mynychu digwyddiadau Artes Mundi. Rhoddir rhybudd ymlaen llaw. 

 

  • Yr oriau gwaith arferol yw 9.30am – 5.30pm 

 

  • Rheolir gan Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus a Nigel Prince, Cyfarwyddwr, ond byddwch yn gweithio â holl aelodau tîm Artes Mundi ac ar wahanol brosiectau. 

 

  • Mae swyddfa Artes Mundi wedi’i lleoli yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ond mae holl aelodau’r tîm yn gweithio o gartref ar hyn o bryd. Bydd Hwylusydd y Rhwydwaith yn cael help i weithio o gartref yn ôl yr angen.  

 

 

Sut i wneud cais 

 

Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl yma drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a’u cyflwyno drwy e-bost at opportunities@artesmundi.org gan nodi Hwylusydd Rhwydwaith yn y llinell bwnc.

 

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

Gwybodaeth a Ffurflen Gais fel Ffeil Sain

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â Letty Clarke yn opporunities@artesmundi.org.