Rydym yn Cyflogi

Curadur Cynorthwyol Rhaglenni Cyhoeddus

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 28 Awst 2023 am 6pm

Cynhelir cyfweliadau: Dydd Iau 7 Medi

Y dyddiad dechrau delfrydol: 18 Medi 2023

Rydym am benodi Curadur Cynorthwyol Rhaglenni Cyhoeddus a fydd yn cydweithio â’r Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, tîm y Cynhyrchwyr Ymgysylltu a staff ehangach Artes Mundi i ddatblygu a chydlynu llwybrau creadigol newydd i arddangosfa Artes Mundi 10. Bydd y Curadur Cynorthwyol Rhaglenni Cyhoeddus yn helpu wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso teithiau, gweithdai a digwyddiadau, yn y cnawd ac ar-lein, sy’n gysylltiedig â’r gwaith a gyflwynir yn yr arddangosfa.

 

Telerau’r Swydd 

 

  • Cynigir y swydd hon fel contract 7 mis ar sail lawrydd.

 

  • Mae ffi gynhwysol o £10,800 ar gael am 3.5 diwrnod/26 awr yr wythnos a ragwelir i’w dalu mewn rhandaliadau misol drwy anfoneb.

 

  • Bydd y Curadur Cynorthwyol Rhaglenni Cyhoeddus yn cydweithio’n agos â’r Curadur Rhaglenni Cyhoeddus a fydd yn gyfrifol am sicrhau’ch bod yn cael eich cefnogi’n llwyr yn eich gwaith. Bydd gynnoch chi amser cyswllt rheolaidd ar Zoom a lle bo’n bosibl gyfarfodydd yn y cnawd.

 

Ceir gwybodaeth lawn am y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth.

 

Sut i Wneud Cais

 

Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl yma drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a’u cyflwyno drwy e-bost at opportunities@artesmundi.org gan nodi Curadur Cynorthwyol Rhaglenni Cyhoeddus yn y llinell bwnc.

 

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF

 

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word

 

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF

 

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word

 

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, y cais, y ffurflenni neu’r cyfweliad, cysylltwch â Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, yn letty.clarke@artesmundi.org  ac fe allwn eich helpu.