Rydym yn Cyflogi
Cynhyrchydd Ymgysylltu
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 28 Awst 2023 am 5pm
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 11 Medi a dydd Mercher 13 Medi
Cyfarfod cychwynnol o Gynhyrchwyr Ymgysylltiedig
Dydd Llun 25 Medi 2023
(Sylwer, mae hwn yn debygol o fod yn ddiwrnod llawn
o hyfforddiant a chynefino).
Ar gyfer arddangosfa Artes Mundi 10 rydym am benodi saith Cynhyrchydd Ymgysylltu a fydd yn cydweithio â ni i ddatblygu a chyflwyno llwybrau creadigol newydd i arddangosfa Artes Mundi 10. Bydd y Cynhyrchwyr Ymgysylltu’n cydweithio’n agos â’r arddangosfa, tȋm Artes Mundi a’i gilydd i ddatblygu cynnwys i deithiau, gweithdai a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn yr arddangosfa.
Telerau’r Swydd
- Cynigir y swydd hon fel contract 7 mis ar sail lawrydd.
- Mae ffi gynhwysol o £1,950 ar gael am 10 diwrnod/75 awr a ragwelir i’w dalu mewn rhandaliadau misol drwy anfoneb.
- Bydd y Cynhyrchydd Ymgysylltu yn cydweithio’n agos â’r Curadur Rhaglenni Cyhoeddus a fydd yn gyfrifol am sicrhau’ch bod yn cael eich cefnogi’n llwyr yn eich gwaith. Bydd gynnoch chi amser cyswllt rheolaidd ar Zoom a lle bo’n bosibl gyfarfodydd yn y cnawd.
Ceir gwybodaeth lawn am y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth.
Sut i Wneud Cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl yma drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a’u cyflwyno drwy e-bost at opportunities@artesmundi.org gan nodi Cynhyrchydd Ymgysylltu yn y llinell bwnc.
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word
Gwybodaeth a Ffurflen Gais fel Ffeil Sain
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, y cais, y ffurflenni neu’r cyfweliad, cysylltwch â Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, yn letty.clarke@artesmundi.org ac fe allwn eich helpu.