Rydym yn Cyflogi
Rheolwr Prosiect
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 4 Medi 2023
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 18 Medi
Dyddiad dechrau a ffafrir: Cyn gynted â phosibl (er y gellir trafod hyn yn y cyfweliad)
Bydd y Rheolwr Prosiect yn gweithio gyda thîm Artes Mundi a’n partneriaid prosiect i gydlynu a chefnogi’r gwaith o gyflenwi rhaglen sy’n canolbwyntio ar y gymuned, gan gynnwys prosiectau gweithdai tymor byr, digwyddiadau cyhoeddus, cyfleoedd hyfforddiant a phodlediadau. Mae’n gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm curadurol a rhaglen ymroddedig a chefnogi artistiaid, curaduron, awduron, ac eraill sy’n gweithio yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Telerau’r Swydd
- Cynigir y penodiad hwn fel contract 7 mis ar sail lawrydd.
- Mae ffi gynhwysol o £10,000 ar gael ar gyfer 3 diwrnod yr wythnos a ragwelir, i’w dalu mewn taliadau misol drwy anfoneb.
- Bydd y rôl hon yn cael ei chefnogi’n bennaf gan y Curadur Rhaglenni Cyhoeddus a’r Cyfarwyddwr, ond byddwch hefyd yn dod i gysylltiad ac yn gweithio gyda thîm cyfan Artes Mundi. Hefyd, byddwch yn dod i gysylltiad â’n partneriaid rhaglen a fydd, yn ysbryd arfer cyd-greu, yn cynnig adborth a mewnwelediadau a fydd yn eich cynorthwyo yn eich rôl.
Ceir gwybodaeth lawn am y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth.
Sut i Wneud Cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal a’u cyflwyno drwy e-bost i opportunities@artesmundi.org gan ddyfynnu Rheolwr Prosiect yn y llinell pwnc. Mae manylion yr opsiynau amgen ar gyfer gwneud cais yn y nodiadau canllaw yn y ddogfen hon.
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word
Gwybodaeth a Ffurflen Gais fel Ffeil Sain
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, y cais, y ffurflenni neu’r cyfweliad, cysylltwch â Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, yn letty.clarke@artesmundi.org ac fe allwn eich helpu.