Safbwynt(iau)

Comisiynau Artistiaid

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 18 Mehefin 2023 am 5pm
Cynhelir cyfweliadau:
Yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2023 ar adegau i’w hysbysu
Dyddiad cychwyn y comisiwn: Yr wythnos yn dechrau 12 Gorffennaf 2023
Hysbysir yr ymarferydd llwyddiannus: Yr wythnos yn dechrau 3 Gorffennaf 2023

Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, gyda sefydliadau celfyddydol eraill ledled Cymru, sy’n ceisio sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y mae’r celfyddydau gweledol a’r sector treftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas.

 

Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd gweithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn gweithio gyda’r amgueddfeydd a sefydliadau’r celfyddydau gweledol, i lwyfannu straeon sydd heb eu hadrodd, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiant er newid. Mae’r rhaglen yn ceisio herio ffyrdd presennol o feddwl drwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r celfyddydau gweledol a’r sector treftadaeth trwy lens gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.

Artes Mundi yw’r prif sefydliad blaenllaw â ffocws rhyngwladol yng Nghymru i’r celfyddydau gweledol sy’n creu cyfleoedd unigryw i unigolion a chymunedau lleol i ymgysylltu’n greadigol â materion
brys ein hoes mewn ffyrdd sy’n taro deuddeg gyda ni i gyd. Rydym yn ymrwymedig i ysgogi deialogau a thrafodaethau, yn rhyngwladol ac yn lleol, sy’n datblygu gwell dealltwriaeth ohonon ni’n hunain, o bobl eraill a’r cysylltiadau rhwng diwylliannau cyfarwydd a phellenig.

 

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, ar gyfer prosiect Safbwynt(iau). Cymru oedd safle pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yn adfeilion caer Rufeinig, sef yr unig weddillion barics y Lleng Rufeinig sydd i’w gweld yn unrhyw le yn Ewrop, yn ogystal â’r amffitheatr fwyaf
cyflawn ym Mhrydain. Mae’r Amgueddfa wedi bod yn arddangos casgliad gwerthfawr o ddarganfyddiadau Rhufeinig ers dros 150 o flynyddoedd.

Y Cyfle

Mae Safbwynt(iau) yn brosiect dwy flynedd ar gyfer gweithwyr creadigol proffesiynol ac mae’n cynnig ffi flynyddol o £12,500 ynghyd ag arian tuag at gostau teithio, costau
deunyddiau/cynhyrchu, ffioedd ar gyfer mentora ac ati, y cytunir arnyn nhw gyda chi. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn cyfrannu arian ychwanegol tuag at ganlyniadau eich ymchwil er mwyn gallu ei gyflwyno’n gyhoeddus.

 

Mae Artes Mundi yn awyddus i benodi gweithiwr creadigol proffesiynol sy’n ymarferydd celfyddydau perfformio neu weledol, curadur neu awdur, sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng. Byddwch chi:

 

  • Yn ymarferydd o Gymru neu’n gweithio yng Nghymru
  • Diwylliannol ac ethnig amrywiol

 

Disgwylir y bydd y sawl a benodir yn bodloni’r canlynol:

 

  • Gweithredu fel asiant er newid
  • Herio sefydliad/sefydliadau sicrhau tegwch yn y sector treftadaeth a’r celfyddydau
  • Diddordeb brwd mewn gwaith, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddadgoloneiddio mannau cyhoeddus

 

Yn ymarferol, bydd y cyfle’n cael ei ddarparu drwy’r canlynol:

 

  • 100 diwrnod o waith a fydd yn cael ei rannu dros ddwy flynedd rhwng gweithio gydag Artes Mundi ac Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig
  • Cymryd rhan mewn ymgysylltiad cymunedol
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio
  • Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso
Gais

Dylai ymgeiswyr wneud cais am y swydd hon gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal a’u cyflwyno dros yr e-bost i opportunities@artesmundi.org gan ddyfynnu ‘Safbwynt(iau)’ yn y llinell pwnc. Mae’r nodiadau canllaw yn y ddogfen hon isod yn cynnwys opsiynau eraill ar gyfer gwneud cais.

 

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF

 

Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word

 

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF

 

Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word

 

Gwybodaeth a Ffurflen Gais fel Ffeil Sain

 

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, y cais, y ffurflenni neu’r cyfweliad, cysylltwch â Nigel Prince, Cyfarwyddwr, yn opportunities@artesmundi.org ac fe allwn eich helpu.