Sawangwongse Yawnghwe

Cafodd Sawangwongse Yawnghwe (g. 1971) ei eni i’r teulu brenhinol Yawnghwe. Ei dad-cu, Sao Shwe Thaik, oedd arlywydd cyntaf Undeb Burma (1948–1962) ar ôl iddynt ennill annibyniaeth oddi wrth Brydain. Yn dilyn chwyldro milwrol 1962 alltudiwyd teulu Yawnghwe, yn gyntaf i Wlad Thai ac yna i Ganada, lle cafodd ei fagu. Mae bellach yn byw a gweithio yn yr Iseldiroedd. Mae celf Yawnghwe, gan gynnwys peintio a gosodiadau, yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth trwy hanes ei deulu a digwyddiadau cyfoes a hanesyddol yn Burma. Mae’n defnyddio ffotograffau teuluol i archwilio a beirniadu naratif ei wlad, gan awgrymu na all archifau presennol gyfleu gwirionedd cenedl yn llawn. Mae ei waith hefyd yn cynnwys mapiau sy’n mynd i’r afael â gwrthdaro sy’n gysylltiedig â chyffuriau, byddinoedd chwyldroadol, lleiafrifoedd ethnig, mwyngloddio, a thrais y wladwriaeth, gyda’r nod o egluro tirwedd wleidyddol gymhleth.

Credit: B&W portrait of Sawangwongse Yawnghwe. Photography - Alex Blanco

Yn ddiweddar, arddangosodd Yawnghwe yn Biennale Gwlad Thai yn Chiang Rai (2023) ac mae wedi arddangos mewn sefydliadau niferus gan gynnwys Kunstinstituut Melly yn Rotterdam, Nova Contemporary yn Bangkok, yr Amgueddfa Genedlaethol Celf Fodern a Chyfoes yn Seoul, yr Amgueddfa Celf Fodern yn Warsaw, ac Amgueddfa Celf Fodern Iwerddon. Mae hefyd wedi cymryd rhan yn Uwchgynhadledd Gelf Dhaka (Bangladesh, 2020 a 2018), 9fed Triennial Celf Gyfoes Asia a’r Môr Tawel (Awstralia, 2018), a 12fed Biennale Gwangju (Corea, 2018). 

 

 

Cynrychiolir Sawangwongse Yawnghwe gan Jane Lombard Gallery, Nova ContemporaryTKG+.


Please click images to enlarge