Sesiynau Cyfnewid Ar-lein ar gyfer
Ysgolion a Grwpiau Cymunedol

I gael gwybod mwy ac i archebu
sesiwn, anfonwch e-bost at
Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus

Mae Artes Mundi 9 yn cynnig cyfle unigryw i weld gwaith y chwe artist o friFirelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA) — sydd ar restr fer Artes Mundi 9. 

Credit: Carrie Mae Weems. From RESIST COVID TAKE 6! 2020. Public art campaign. Courtesy the artist and Social Studies 101 in association with THE OFFICE performing arts + film. Photography: Polly Thomas

Credit:

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid-19, byddwn yn cyflwyno gwaith yr artistiaid hyn drwy deithiau tywys rhithwir o’r arddangosfa. Yn ogystal, rydym yn gwahodd ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol i ymuno â ni ar gyfer sesiynau cyfnewid a gynhelir gan ein Cynhyrchwyr Ymgysylltu. Mae’r sesiynau ar-lein 30 munud hyn yn gyfle i gael golwg ddyfnach ar waith pob artist, rhannu barn a chyfnewid syniadau.  

 

Mae ein Cynhyrchwyr Ymgysylltu ar gael i gynnal sesiynau creadigol aml-gelfyddyd ar-lein 40 munud ar gyfer hyd at 30 o bobl hefyd. Mae’r Tîm Ymgysylltu yn Artes Mundi yn dwyn ynghyd ddoniau anhygoel, o osodiadau a ffilm, perfformio, cerddoriaeth, darlunio, steilio ac ysgrifennu, i gyflwyno ffyrdd newydd o gynhyrchu syniadau creadigol gyda’n gilydd. Ein nod yw teilwra pob sesiwn i anghenion a diddordebau’r bobl sy’n ymuno ynddynt.  

 

Rydym yn croesawu pawb ac yn awyddus i weithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol o bob math yng Nghymru. Rydym yn gwahodd eraill o bob rhan o’r DU hefyd ac eisiau clywed gan gorau cymunedol, grwpiau darllen, cylchoedd gwnïo, timau chwaraeon ac unrhyw grwpiau cymunedol dielw eraill. Noder mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. 
 

I gael gwybod mwy ac i archebu sesiwn, anfonwch e-bost at Letty Clarke, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus