Sesiynau Stiwdio Artes Mundi 10

Dyddiad cau: 8 Mawrth 5: 00 pm

Mae Artes Mundi yn lansio cyfres o sesiynau stiwdio un-i-un am ddim gydag artistiaid a churaduron sydd wedi cyfrannu at raglen Artes Mundi 10.

 

 

Gall artistiaid sy’n Gymry neu’n gweithio yng Nghymru gyflwyno datganiad o ddiddordeb i gael sesiwn awr un-i-un gydag un o’n cyfranwyr ar Zoom neu wyneb yn wyneb (os yw’n ymarferol). Cofiwch fod rhai o’r mentoriaid yn byw y tu allan i Brydain ac Ewrop, fel y nodir isod. Cynhelir y sesiynau mentora ym mis Ebrill.

 

 

Mentoriaid sy’n cyfrannu (manylion pob un isod):

  • Rushdi Anwar – Awstralia a Gwlad Thai
  • Yr Athro Dr Omar Kholeif CF FRSA – Llundain a Sharjah, Emiradau Arabaidd Unedig
  • Naomi Rincón Gallardo – Dinas Mecsico ac Oaxaca
  • Nina Hoechtl – Dinas Mecsico
  • Nigel Prince – Caerdydd, Cymru
  • Laura Gutiérrez – Mecsico Newydd, Unol Daleithiau America
  • Beatriz Lobo Britto – Llundain, Lloegr
  • Liv Brissach – Tromsø, Norwy
  • Bárbara Santos – Bogota, Columbia
  • Amal Khalaf – Llundain, Lloegr
  • Katya García-Antón – Tromsø, Norwy
  • May Adadol Inganawij – DU a Gwlad Thai

 

 

Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar eich ymarfer artistig. Gallwch ofyn am gyngor ar sut i ddatblygu’r gwaith sydd gennych ar y gweill neu am adborth ar rywbeth sydd eisoes wedi’i wneud. Gall sesiynau fod yn seinfwrdd ar gyfer syniadau. Byddwn bob amser yn ceisio paru artistiaid fel eich bod yn cael y gorau o’r sesiwn. I sicrhau hyn, gofynnwn i chi anfon ychydig mwy o wybodaeth atom. Mae lleoedd yn gyfyngedig a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 8 Mawrth, 5:00 pm.

 

 

I wneud cais am le cyflwynwch y ffurflen mynegi diddordeb isod trwy glicio yma. Cofiwch ddweud wrthym gyda phwy yr hoffech chi siarad ac anfon disgrifiad byr o’ch gwaith, datganiad am y prif beth rydych chi eisiau ei gael allan o’r sesiwn a rhai enghreifftiau o waith neu ddolenni gwe iddo; gall hyn gynnwys eich tudalen Instagram.

 

 

Os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i’ch helpu i gael mynediad i’ch sesiwn a chael y gorau o’ch sgwrs, rhowch wybod i ni. Ymhlith rhai o’r pethau y gallwn eu cynnig mae: cymorth gyda chostau gofal plant, adroddiadau capsiynau byw, dehongli BSL neu ddehongli ieithoedd eraill. Darperir ffeil sain ar gyfer artistiaid byddar/trwm eu clyw cyn gynted ag sy’n bosib.

 

Gwybodaeth fel Ffeil Sain

 

Ffurflen Gais fel Ffeil Sain

YouTube player

Yn ei waith, mae Rushdi Anwar (g 1971, Halabja, Cwrdistan [Cwrdistan-Irac]) yn myfyrio ar y problemau cymdeithasol-wleidyddol sy’n parhau i lygru geowleidyddiaeth Gorllewin Asia (“y Dwyrain Canol” yn hanesyddol). Gan dynnu ar ei brofiadau personol o ddadleoli, gwrthdaro a thrawma a ddioddefwyd o dan lywodraethau trefedigaethol ac ideolegol Irac, mae gwaith celf Anwar yn cyfeirio ac yn creu disgwrs ynghylch statws tegwch cymdeithasol – gan archwilio cymhlethdod gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol y wlad trwy astudio ffurf a’i fateroldeb. Gan gofleidio gosodwaith, cerflunio, paentio, ffotograffiaeth a fideo, mae ei waith yn cofio tynged feunyddiol y miloedd sydd wedi’u dadleoli ar hyn o bryd ac sy’n dioddef gwahaniaethu ac erledigaeth, gan gwestiynu a yw gwaredigaeth yn bosibl a dadlau dros yr angen i bawb ddangos empathi fel rheidrwydd cymdeithasol.

 

 

Artist, awdur, curadur a hanesydd diwylliannol yw Dr Omar Kholeif sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Uwch Guradur yn Sefydliad Celf Sharjah, yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae hefyd yn gyfarwyddwr a chyd-sefydlydd y corff diwylliannol dielw, artPost21. Mae’n awdur neu gyd-awdur dros 30 o lyfrau, a gyfieithwyd i 17 o ieithoedd, gan gynnwys y gyfrol ddiweddaraf ‘Internet­ Art: From the Birth of the Web to the Rise of NFTs’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Phaidon.

 

 

Mae Naomi Rincón Gallardo yn artist gweledol ac ymchwilydd sy’n byw ac yn gweithio ym Mecsico ar hyn o bryd. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, chwedloniaeth, hanes, ffuglen, dathliadau, crefftau, gemau theatr a cherddoriaeth boblogaidd. Cynnwys ei harddangosfa yn Chapter yw ffilmiau, darluniau ac animatroneg sy’n adrodd straeon newydd am fydoedd dychmygol gan ymgorffori safbwyntiau ffeministaidd a chwîyr.

 

 

Artist gweledol, ymchwilydd, curadur ac athrawes yw Nina Hoechtl, sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil ac Astudiaethau Rhywedd UNAM (CIEG). Mae ei hymchwil yn waith trawsddisgyblaethol sy’n cyfuno arferion artistig, archifol a dadansoddol gydag astudio’r celfyddydau gweledol, yn enwedig diwylliant gweledol, a damcaniaethau ac arferion ffeministaidd cwîyr, ôl- a dad- drefedigaethol/aidd. Yn 2013 derbyniodd PhD o Brifysgol Goldsmiths Llundain. Wedyn, bu’n Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Esthetig (IIE), UNAM. Yn 2018 enillodd ei ffilm ¡HAUNTINGS IN THE ARCHIVE! (2017) wobr WOMEN’S VOICE NOW am y ffilm nodwedd ddogfennol orau. Yn ei phrosiect diweddaraf, “Delirio güero” (2016-2021) archwiliodd Hoechtl yr hyn y mae’n ei weld fel ‘delirio güero’ (hunan-dwyll y gwyn) ym Mecsico. Arweiniodd y prosiect hwn, ymhlith cynhyrchion eraill, at y fideo “Delirio güero. 2211, 2018, 1825 and back”, a thraethawd dan y pennawd “A Visual Glossary: Delirio güero (White Delusion)”, a gyhoeddwyd yn 2020 yn Sharpening the Haze (Ubiquity Press).

 

 

Daeth Nigel Prince yn Gyfarwyddwr Artes Mundi yn 2019. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol yn yr Oriel Gelf Gyfoes (CAG), Vancouver, Canada, swydd yr oedd wedi’i dal ers 2011. Dechreuodd Prince ei yrfa yn Tate Lerpwl, bu’n Guradur yn Ikon, Birmingham (2004-10) ac ynghyd â’r gwaith curadurol mae wedi dal sawl swydd academaidd ac ymchwil gan gynnwys Cyfarwyddwr Cwrs ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (1997–2002). Mae wedi gweithio’n helaeth gydag artistiaid cyfoes gan gynnwys Ryan Gander, Andrea Zittel, Donald Judd, Olafur Eliasson, Shahzia Sikander, Liz Magor, Steven Shearer ac Ayşe Erkmen ymhlith llawer o rai eraill, ac wedi gweithio mewn sawl partneriaeth ffrwythlon gydag amgueddfeydd ac orielau ledled y byd, yn ogystal â sefydliadau fel Ballet BC a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham. Cafodd ei arddangosfa gyda’r artist Carmen Herrera o Giwba yn 2009 ei chanmol fel “darganfyddiad y degawd” gan y Guardian/Observer a’r New York Times. Mae Prince yn dal i ysgrifennu am gelf gyfoes i ystod eang o gyhoeddiadau a chyfnodolion, gan gyfrannu traethodau diweddar at fonograffau ar Lucy a Jorge Orta a Julia Dault.

 

 

Mae Laura Gutiérrez yn Ddeon Cyswllt dros Ymgysylltu â’r Gymuned ac Ymarfer Cyhoeddus yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, ac yn Athro Cyswllt mewn Astudiaethau Latinx yn Adran Astudiaethau Americaneg a Latina/o Mecsico ym Mhrifysgol Texas yn Austin. Ei meysydd ymchwil yw perfformio, diwylliant gweledol, astudiaethau cwîyr a ffeministiaeth yn y byd Latinx a Mecsicanaidd. Gutiérrez yw awdur Performing Mexicanidad: Vendidas y Cabareteras on the Transnational Stage (enillodd wobr llyfr MLA) ac mae wedi cyhoeddi gwaith ar berfformiadau Latinx, celf y ffin, celf fideo Mecsicanaidd, a chabare gwleidyddol Mecsico. Roedd hi’n Gymrawd Ysgolor yn Sefydliad Ymchwil Getty yn Los Angeles yn ystod hydref 2022. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau llawysgrif llyfr o’r enw Binding Intimacies in Contemporary Queer Latinx Performance and Visual Art. Mae Gutiérrez ar dîm rhaglennu Gŵyl OUTsider yn Austin, Texas ac yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl.

 

 

Beatriz Lobo Britto (g. 1994, Brasil) yw curadur iniva ers 2022, lle mae’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno arddangosfeydd a rhaglenni cyhoeddus gyda ffocws ar weithiau artistig gan y Mwyafrif Byd-eang, gan weithio gydag artistiaid a phartneriaid i roi prosiectau celfyddydol ar waith trwy ymchwil, addysg gelf radical, dad-ddysgu, ac arferion lles. Mae Beatriz hefyd yn amgueddfolegydd, yn ymchwilydd ac yn arddelydd meddylfryd anhierarchaidd, sy’n credu yng nghydraddoldeb syniadau a ffyrdd aflinol o’u cyfansoddi a’u trefnu. Ers pan oedd yn 17 oed, mae Beatriz wedi ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd, gan weithio gyda chymunedau brodorol yn Ne America i ddatblygu prosiectau a arweinir gan y gymuned gyda ffocws ar addysg a chyfiawnder cymdeithasol. Mae gan Beatriz BA (Anrh) mewn Astudiaethau Amgueddfaol o Brifysgol Ffederal Talaith Rio de Janeiro, ac MA mewn Ymarfer Curadurol gyda ffocws ar Gelf Gyfoes o Ysgol Gelf Glasgow. Gweithiodd hefyd ym Mhrosiect NewBridge (Newcastle, Lloegr), Oriel Gelf Fodern Glasgow (yr Alban), Museu do Índio (Amgueddfa Pobloedd Brodorol, Rio de Janeiro, Brasil). Yn iniva, mae Beatriz wedi curadu’r arddangosfeydd Village Letters (2022-2023) a Materials Speak (2024), wedi cyd-guradu Shifting the Centre – Anticolonial Ways of Seeing (2023), Can Publications be Porous?  (2023), Dancing In The Ellipsis // A Cartographer’s Black Hole (2022), ac wedi gweithio ar brosiectau addysgol yn cynnwys Youth Rising, CoLab, a gweithgareddau ymgysylltu ynghylch prosiectau Future Collect.

 

 

Liv Brissach yw Curadur Amgueddfa Gelf Gogledd Norwy / Davvi Norgga Dáiddamusea. Cyn hynny, gweithiodd fel Curadur Celf Gyfoes yn MUNCH yn Oslo, Norwy, ac fel Swyddog Prosiect yn Swyddfa Celfyddyd Gyfoes Norwy (OCA). Bu Brissach yn gyd-guradur y MUNCH Triennale – The Machine is Us (2022) ac yn guradur cynorthwyol Pafiliwn y Sámi yn Biennale Fenis yn 2022. Cafodd ei hyfforddi fel hanesydd celf yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac ym Mhrifysgol Oslo, a gellir dod o hyd i destunau a gyfansoddodd mewn cyhoeddiadau gan MUNCH, OCA a Fotogalleriet.

 

 

Artist gweledol ac ymchwilydd annibynnol yw Barbara Santos. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar wneud prosesau trawsnewid yn weladwy gan ddefnyddio’r cysylltiad rhwng celf a thechnoleg dan arweiniad gwybodaeth yr hynafiaid yn yr Amazon. Mae ganddi brofiad sylweddol yn y jyngl ers 2005 yn rhanbarthau Vaupés a Putumayo (Amazon Colombia) ac mae’n awdur y llyfr ‘La curación como tecnología’ (Iacháu trwy Dechnoleg, idartes, 2019). Yn plethu trwy ei phrosiectau hirdymor ar y cyd mae’r bwriad o gwestiynu strwythurau traddodiadol a fformatau celf gyfoes trwy gryfhau’r rhwygiadau esthetig a all ddeillio pan fydd diwylliannau cymhleth yn cwrdd. Gwefan: quiasma.co

 

 

Curadur ac artist yw Amal Khalaf sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni yn Cubitt, Curadur Dinesig yn Orielau’r Serpentine, ac yn gyd-guradur Biennial Sharjah a gynhelir yn 2025. Yma ac mewn cyd-destunau eraill, mae wedi datblygu preswylfeydd ac arddangosfeydd, ac wedi cynhyrchu ffilmiau, cyhoeddiadau a phrosiectau ymchwil cydweithredol ar y groesffordd rhwng y celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol, a hynny’n seiliedig ar astudiaeth barhaus o addysgeg radical. Ymhlith ei phrosiectau diweddar mae Radio Ballads (2019-22) a Sensing the Planet (2021). Mae hi’n un o sylfaenwyr cydweithfa artistiaid GCC, ac yn ymddiriedolwr gyda Mophradat, Athen, not/nowhere, Llundain ac Art Night, Llundain. Yn 2019 bu’n gyd-guradur pafiliwn Bahrain yn Fenis, yn 2018 cyd-guradodd gynhadledd celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol ryngwladol dan yr enw Rights to the City ac yn 2016 cyd-gyfarwyddodd 10fed rhifyn y Fforwm Celf Byd-eang, Art Dubai. Mae wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau artistiaid yn ystod y degawd diwethaf, gan gynnwys RAFTS gan Rory Pilgrim, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Turner 2023.

 

 

Katya García-Antón yw Cyfarwyddwr Amgueddfa Gelf Gogledd Norwy-Nordnorsk Kunstmuseum, Norwy/Sápmi. Hi oedd comisiynydd a chyd-guradur trawsnewidiad y Pafiliwn Nordig i Bafiliwn Sámi yn Biennale Fenis 2022. Cyn hynny roedd hi’n Gyfarwyddwr/Prif Guradur Swyddfa Celf Gyfoes Norwy ers 2014. Graddiodd fel biolegydd gan wneud ymchwil maes mewn ecoleg ac ymddygiad yn yr Amazon a Sierra Leone, a throdd at y celfyddydau wrth gael MA yn hanes celf y 19eg a’r 20fed ganrif gan Sefydliad Celfyddydau Courtauld, Llundain. Wedyn bu’n gweithio yn Sefydliad Courtauld, y BBC World Service (Darlledu i America Ladin), Museo Nacional Reina Sofía Madrid, ICA Llundain, IKON Birmingham, ac fel Cyfarwyddwr y Centre d’Art Contemporain (CAC) Genève. Mae’n gyfrifol am fwy na saith deg o arddangosfeydd celf, pensaernïaeth a dylunio gan ymarferwyr ledled y byd. Hi oedd prif guradur y Pafiliwn Nordig yn Biennale Fenis yn 2015; curadodd Bafiliynau Sbaen yn Bienal de São Paolo 2004 a Biennale Fenis 2011; yn ogystal â chyd-guradu Biennale Prague 2005, a’r arddangosfa flaenllaw Gestures in Time yn Biennale Rhyngwladol Qalandiya, 2012. Yn 2015 lansiodd Critical Writing Ensembles, platfform parhaus i ysgogi ymchwil, a chyhoeddi hanesion celf y tu hwnt i ganon y Gorllewin (gan gynnwys, hyd yn hyn, fydolygon brodorol a De Asia).