Bywyd llonydd

gan Nia Morais

O’n i arfer eistedd mewn stafell uwchben Blue Banana

yn edrych mas dros Fore Street, wrth i’r fenyw

clampio fy nghlustiau, closio gyda’r nodwydd, gofyn fi

anadlu mas. O’n i arfer brysio adre wrth i’r gwaed llenwi’r tyllau.

Yn y drych uwchben y sinc, o’n i’n niwlog:

matsien ar foment fflam.

 

 

O’n i arfer moyn haul mewn inc ar fy nghoes chwith, lleuad ar fy nghoes dde.

Môr-forwyn yn chwarae ar fy nghlun, blodau’n dripio i fy mysedd,

gwenyn yn hymian ym mhlygiad fy mhenelin.

Dymunais i gael fy agor fel hen lyfr storïau,

i gael fy astudio, pob tudalen felen wedi ystyried,

fy mhenodau wedi marcio gyda rhuban, fy meingefn wedi setlo

i orffwys.

Torrais fy ngwallt ar noswaith dywyll yn Chwefror

a dyna ddechreuad y darniad, rili.

 

 

Daeth fy mywyd i nôl, yn araf,

y gwely wedi’i neud, y potiau wnaeth losgi eu gadael yn y dŵr.

Ond mae fy mhen yn gallu bod yn orsaf rif o boen

a dwi dal wedi temtio gan inc:

i gario cerrynt o liw,

goleudy’n galw dyma fi,

map i gario gyda fi am byth.

Rydw i nawr yn greadur aml-wynebol: pysgodyn yn cyplu mewn haig,

neu neidr yn bwyta’i chynffon.

Y gwynt yn udo. Bywyd llonydd mewn paent olew. Arth ddŵr.

Ac na fase hynny’n neis? Byth?

 


 

Mae Nia Morais yn awdur a dramodydd o Gaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mewn genres stori fer, drama sain, ffantasi ac arswyd. Mae Nia yn awdur Cymraeg-Cape Verdean a raddiodd yn ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd. Yn hydref 2020 rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, gyda Sherman Theatre, a ail-ysgrifennwyd fel sioe fyw ar gyfer Gŵyl Haf y Gwên yr haf hwn. Mae ei gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar themâu hunaniaeth a goroesi.